Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod ychydig lyfrau wedi eu hargraffu, y rhai a gynwysent beth wmbredd o wybodaeth, pe gallasai ond cael yr agoriad i fyned i mewn iddynt. Trwy yr awyddfryd ymchwiliadol oedd yn naturiol ynddo, a thrwy ddefnyddio yr ychydig fanteision oeddynt yn ei gyrhaedd, dysgodd egwyddor yr iaith yn gyflym; a chyn hir cyrhaeddodd y medr gwerthfawr o ddarllen; ymhyfrydai mewn caneuon a llyfrau difyrus o wahanol fath, cymaint oedd yn ei gyrhaedd yr amser hwnw, ac yn yr ardal yr agorodd efe ei lygaid ynddi gyntaf erioed. Tua blwyddyn cyn ei eni yr oedd achos crefydd wedi dechreu yn Ninas Mawddwy; a'r flwyddyn y ganwyd ef, yr oedd y Parch. W. Thomas, Bala, wedi gweinyddu swper yr Arglwydd am y waith gyntaf yn y Dinas, yn nhŷ Rowland Gruffydd, iddo ef a rhyw chwech eraill, oeddynt wedi teimlo ar eu calonau ymuno i ddechreu achos yno, ac ymdrechu cyfodi enw y Gwaredwr yn y lle. Pan oedd Evan Rowlands yn llanc tua phymtheg oed, yr oedd yr eglwys yn y Dinas wedi lluosogi, capel wedi ei adeiladu, a'n tad wedi ymsefydlu yno, i lafurio yn eu plith. Deallodd Evan mai rhyw Lyfr hynod iawn oedd y Llyfr oedd gan y crefyddwyr, a alwent, "Y Beibl." Teimlodd yntau awydd yn ei galon i fod yn berchenog ar y Llyfr rhyfedd hwnw. Nid ydym yn deall ei fod y pryd hwn wedi dyfod i'r goleuni am dano ei hun fel pechadur, nac am drefn gras Duw ar ei gyfer; hyny ydyw, nid oedd yn un o ddychweledigion yr Arglwydd y pryd hwn; ond mae yn ymddangos i ni fod ei awydd am gael y Beibl i'w feddiant yn brawf fod yr Arglwydd o'i ras wedi dechreu y gwaith da ynddo. Gwir nad oedd ond bach a gwan iawn; ond yr oedd yn dechreu y gwaith da, yr hwn sydd erbyn hyn wedi ei orphen mewn rhan, yn ngogoneddiad ei enaid, ac a gyflawn orphenir pan adgyfodir ei gorph o lwch y bedd, ac y ca ei enaid a'i gorph gyflawn fwynhad o dragywyddol etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Mae goleuni dwyfol wedi dyfod i feddwl rhai gyda sydynrwydd a chyflymdra y fellten, pan oeddynt yn nghanol y tywyllwch. Rhoddwyd ergyd gras ar galon rhai pan oeddynt yn nghanol eu cryfder annuwiolaidd, nes eu taro i'r llawr ar unwaith, a'u cyfnewid yn hollol yn y fan. Mae gwaith gras yn eraill fel toriad y wawr, yn