Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid oes yn Nghwm Tafolog fawr neb, os oes un, heb fod yn grefyddol mewn enw ac ymddangosiad, a gobeithiwn eu bod felly oll mewn gwirionedd. Ardal wedi ei chwbl enill at grefydd ydyw Cwm Tafolog; mae yno ddynion enwog fel crefyddwyr, gweddiwyr, a chantorion; gwyddom am lawer fu yno, ac mae genym bob lle i gredu am danynt fod eu hysbrydoedd yn bresenol yn ngwlad yr hedd. Un oddiyno ydyw y Bardd enwog, a gymerodd ei enw barddonol oddiwrth ardal ei enedigaeth, sef Tafolog," yr hwn fu yn fuddygol mewn amryw o Eisteddfodau pwysig; os ymrydd ati, a phenderfynu cyrhaedd safle uchel fel bardd, bydd yn sicr o Gadair Farddonol cyn hir. Gweinidog presenol yr eglwys yn Bethsaida, Penrhiw'rcul, ydyw y Parch. Edward Williams, Dinas, yr hwn sydd wedi bod yn llafurus, defnyddiol, a llwyddianus, yn yr ardaloedd hyny.

Gwelwn mai digon anfanteisiol fu blynyddau borau oes Mr. Rowlands iddo gyrhaedd gwybodaeth, cofleidio crefydd, a dyfod yn weinidog efengyl y tangnefedd ; ond er yr holl anfanteision allanol, yr oedd rhywbeth yn mhen y bachgen Evan yn wahanol i fechgyn o'i oed yn gyffredin. Pan fyddo yr Arglwydd yn cyfodi rhai i gyflawni gwaith neillduol iddo ef, bydd yn eu cynysgaeddu â galluoedd naturiol cyfaddas i lanw y cylchoedd y bwriada iddynt droi ynddynt; felly yr oedd rhyw beth yn y bachgen Evan, er yn fachgen, ag oedd yn rhagbarotoad iddo i waith ei oes, sef gwaith mawr y weinidogaeth efengylaidd. Treiglodd blynyddau ymaith cyn i neb fod yn ddigon craff, mae'n debyg, i ganfod fod defnyddiau pregethwr a gweinidog i'r Gwaredwr yn Evan Rowlands; bu yntau ei hunan hefyd flynyddau heb un syniad yn nghylch, nac un meddwl am y fath waith; ac eto, er y cwbl, yr oedd rhywbeth ynddo ag oedd yn ei wneud yn wahanol i fechgyn ei oes a'i ardal yn gyffredin. Deallodd cyn hir fod y gwahanol seiniau a wnai ef ac eraill o'i gydgreaduriaid yn Iaith; ond bu am rai blynyddau, mae yn debyg, heb un syniad fod mwy o ieithoedd yn bod yn y byd nag iaith ei fam, yr hen Gymraeg anwyl; cyrhaeddodd y wybodaeth hefyd, trwy ryw foddion, fod egwyddor yn perthyn i'r iaith, ac mai gwahanol lythyrenau yr egwyddor, trwy eu gosod at eu gilydd, oedd yn gwneud geiriau; a deallodd