Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrandaw i fanau eraill, pan fyddai cyfleusdra yn caniatâu, ond nid oes genym le i gasglu eu bod wedi gweled y pryd hwnw werth gwir grefydd. Ychydig feddyl. iasant pan y ganwyd ef, eu bod wedi cael y fraint o fod yn rhieni i blentyn fuasai yn cyfodi yn ddyn o gyhoeddusrwydd yn y byd,fel gweinidog yr efengyl trwy Gymru, ac a fuasai yn foddion i droi llawer o eneidiau o'r tywyllwch i'r goleuni; ac o feddiant Satan at Dduw. Digon tebyg pan anwyd y bachgen, na feddyliodd ei dad na'i fam ofyn y gofyniad, "Beth fydd y bachgenyn hwn?" Cyn belled ag y gwyddom, efe oedd y pregethwr cyntaf a anwyd yn Nghwm Tafolog. Crybwyllasom eisioes,mai Ty'nypwll oedd enw y tŷ y ganwyd ef ynddo. Safai rhwng Tymawr a Gellywen. Gallwn dybied mai nid enwog iawn oedd y tŷ lle cafodd ei eni ynddo, wrth ei enw; deallwn nad yw y tŷ mewn bod er's blynyddau bellach; gadawodd ei breswylwyr ef; aeth yn fyrddyn adfeiliedig; cariwyd rhai o'i geryg, mae'n debyg, i'r cloddiau cyfagos; mae y gweddill o hono wedi ei gladdu er's llawer dydd, ac nid oes fawr o ôl yr hen drigfa yn bresenol ar gael; ond yma y cafodd y dyn Duw y soniwn am dano ei ddwyn i fod. Yn y flwyddyn 1797, daeth ein tad, y diweddar Wm. Hughes, yn weinidog i Dinas Mawddwy, o fewn i dair neu bedair milldir i le genedigol Mr. Rowlands, pan oedd efe rhwng pump a chwech mlwydd oed; ymwelai ein tad â Chwm Tafolog i bregethu, fel y byddai amgylchiadau yn caniatâu, a bu y bachgen Evan Rowlands yn gwrando arno. Llwyddodd yr efengyl yn raddol yn Nhafolog-y naill deulu ar ol y llall a enillwyd i gofleidio crefydd y groes; ac yn y flwyddyn 1821, adeiladwyd capel a elwir Bethsaida, wrth ymyl y ffordd o Fallwyd i Lanfair, yn Mhenrhiw'rcul, mewn man cyfleus i Gwm Tafolog, Dugoed, Nantyrhedydd, a'r Groeslwyd. Mae yno gyfnewidiadau wedi eu gwneud erbyn hyn, ffordd newydd wedi cael ei gwneud yn îs ac yn nês i'r afon na'r capel; ond ni wnaeth hyny y capel fawr yn fwy anghyfleus i drigolion yr ardaloedd nag oedd pan adeiladwyd ef. Nid ydym yn gwybod am un ardal bron yn Nghymru, ag y mae cyfnewidiad er gwell wedi cymeryd lle yn rhagorach nag yn Nghwm Tafolog. Pan anwyd Rowlands yno, nid oedd yno fawr neb yn grefyddol, ond erbyn hyn,