Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyddol yr Arglwydd oedd iddo gael eni i'r byd, yn y man, ar y pryd, ac yn yr amgylchiadau y gwnaeth ei ymddangosiad ar y ddaear; neu, ynte, goruwch-lywodraethwyd y cyfan i'w gael i'r weinidogaeth, er cynorthwyo adeiladaeth corph Crist. Yn sir Drefaldwyn, yn y rhan uchaf o honi, yn agos i'r ffordd sydd yn arwain o Fachynlleth i Lanfair-caereinion, a thua dwy filldir o dreflan Mallwyd, mae cwm, a elwir Cwm Tafolog. Yn y cwm hwn y ganwyd y diweddar Rowlands, Ebenezer, Pontypool. Tua deg mlynedd a thriugain yn ol y cymerodd yr amgylchiad le. Nid oedd dim enwogrwydd, am a wyddom, yn perthyn i Gwm Tafolog y pryd hwnw, ardal fel o'r neilldu i bob man ydoedd. Pell oddiwrth y môr, pell oddiwrth dref marchnad. Gallesid myned o un pen i'r cwm yn fuan i Lanbrynmair, neu dros y mynydd i ardal hyfryd y Cemes, a glànau prydferth afon Dyfi, neu o'r pen arall gallesid myned yn fuan i Mallwyd, a Dinas Mawddwy, neu dros fwlch y Fedwen i Garth-beibio, Llanerfil, a Llanfair. Yn gysylltiedig â Chwm Tafolog yr oedd y Dugoed, lle gwibiai gwylliaid cochion Mawddwy gynt yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth, ac yn y fan hwnw mae Llidiart Croes y Barwn, lle y llofruddiodd y gwylliaid y Barwn Lewis Owen, ysw., hen daid yr enwog Dr. Owen.

Pan y ganwyd gwrthddrych ein cofiant, nid oedd yn agos i Gwm Tafolog un lle addoliad; gallesid d'weyd am dano, fel y barnai un am ardal arall, ei fod yn lle iach iawn, nid oedd yr un meddyg yn byw yno-ei fod yn lle heddychol, nid oedd yr un cyfreithiwr yn byw yno—a'i fod yn lle tra digrefydd, nid oedd yr un pregethwr yn byw yno. Y pryd hwnw, nid oedd yn Nhafolog ond ychydig o dyddynwyr, gweithwyr tir, a bugeiliaid defaid; magu ychydig anifeiliaid, a defaid, a chodi, a chario mawn, yn nghyd a nyddu gwlân y defaid, i wneyd dillad o frethin cartref, oedd eu prif orchwylion. Mewn man dinôd, a elwid Ty'nypwll, yn Nghwm Tafolog, y ganwyd gwrthddrych ein cofiant, yn ngwanwyn y flwyddyn 1792. Nid ydyw yn ymddangos fod ei rieni yn ymwneyd dim â chrefydd, oddieithr eu bod yn myned weithiau i'r gwasanaeth i hen lan Mallwyd, ac feallai yn achlysurol yn myned i