Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COFIANT, &c.

TYFODD ambell i gedrwydden mewn lleoedd digon annhebyg i gedrwydd dyfu ynddynt. Cafwyd ambell i bren ffrwythlawn yn nghanol llawer o rai diffrwyth. Tarddodd y lili allan weithiau yn mhlith drain. Blodeuodd briallu heirdd ar ochrau cloddiau digon diolwg. Bwrlymodd dyfroedd iachusol grisialaidd allan, weithiau, mewn llanerchau digon diffrwyth. Cafwyd perlau weithiau mewn lleoedd digon gwael yr olwg arnynt; a chloddiwyd allan drysorau gwerthfawr o fynyddau a ymddangosent yn ddigon llwydaidd yr olwg allanol arnynt. Cyfododd yr Arglwydd ddynion enwog o fanau digon anenwog, mewn amseroedd digon annhebyg, ac o amgylchiadau digon anfanteisiol. Ur y Caldeaid eilun-addolgar y cyfododd yr Arglwydd Abraham, tad y ffyddloniaid. O'r cawell llafrwyn yn yr hesg, ar lan afon Nilus, y cyfododd yr Arglwydd Moses enwog, arweinydd pobl Dduw o dŷ'r caethiwed. O fod yn fugail defaid ei dad y cyfododd yr Arglwydd Dafydd, yn llywydd ar Israel etholedigion Duw. Yn Bethlehem fechan, yn llety'r anifeiliaid, y ganwyd Iachawdwr y byd; ac yn Nazareth anenwog yn Galilea y dygwyd ef i fyny. Mynych y gwiriwyd geiriau yr Arglwydd trwy y prophwyd, "Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd I na'ch ffyrdd chwi; a'm meddyliau I na'ch meddyliau chwi." Aml i fechgyn glew a droisant allan yn wŷr ardderchog yn ngwasanaeth Arglwydd y lluoedd, a anwyd ac a fagwyd yn mynwesau cymoedd, ar lechweddau bryniau, ac yn ngheseiliau mynyddoedd gwyllt Walia.

Mewn amser, mewn man, ac mewn amgylchiadau digon anfanteisiol, ar yr olwg allanol, y ganwyd gwrthddrych ein Cofiant, iddo droi allan i'r byd yn ddyn cyhoeddus, yn genad Duw, ac yn weinidog i Efengyl ei Fab ef. Ond ffrwyth hen feddyliau tragy-