Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Galwodd Mr. Rowlands y bregeth hon yn Ocheneidiau y Gwyliedydd. Pe cai ei darllen yn gyffredinol, credwn y gwnae les dirfawr. Cynwys yr Alar-Gân, gan ein cyfaill, Mr. Edmund Jones, y fath grynhodeb o'r prif bethau yn mywyd, gweinidogaeth, a marwolaeth Mr. Rowlands, fel nad yw yn angenrheidiol i ni ychwanegu llawer. Bu yn gofalu am rai blynyddau am eglwys Abersychan gydag eglwys Ebenezer. Cafodd yr achos yno yn isel iawn, bu o fendith fawr yn y lle, yn barchus neillduol gan y cyfeillion, ac y mae yno yn bresenol eglwys flodeuog, yn cynwys pobl siriol, fywiog, a llawn o yspryd y gwaith. Bu yn ŵr uchel ac enwog yn ngolwg eglwysi Mynwy a Morganwg am flynyddau, ond daeth cenadon angau i ergydio y tŷ o glai, cafodd fath o ergyd parlysaidd, collodd rymusder ei gorph a'i feddwl, i raddau helaeth, ac araf rodio y bu ar lan afon marwolaeth am gryn dymhor cyn myned trwyddi. Gwelwyd nerth y natur ddynol ynddo pan oedd yn nyddiau ei nerth, a gwelwyd gwaelder a gwendid y natur ddynol ynddo yn mlynyddoedd diweddaf ei oes. Ymddiosgodd o'i wisgoedd gweinidogaethol cyn rhoddi heibio y tabernacl y preswyliai ynddo. Bu yr eglwys yn dyner o hono a gofalus am dano hyd ddiwedd ei ddyddiau yr oedd fel llestr methedig. Yn mis Ebrill, 1861, daeth yr ergyd marwol. Ar y 23ain o'r mis hwnw aeth trwy afon marwolaeth, yn 68 mlwydd oed, a diamheu genym, cyrhaeddodd ei enaid dir y bywyd yr ochr draw yn iach. Gallesid ysgrifenu llawer ychwaneg am dano, fel dyn, cyfaill, Cristion, a gweinidog. Yr oedd yn onest, didwyll, diragrith, a ffyddlon. Fel prawf o'i onestrwydd, nodwn yr engraifft ganlynol Pan oedd yn nhŷ ein tad yn ffarwelio, wrth gychwyn i'r Neuaddlwyd, aeth ein tad i'w hebrwng i'r cae oedd gerllaw y tŷ, ac wrth ymadael, rhoddodd benadur yn ei law, gan ddweyd, Cymerwch hwn, Evan Rowlands, i'ch cynorthwyo; os na ddeuwch yn alluog i'w dalu yn ol, ni ddysgwylir dim oddiwrthych; ni ŵyr neb am dano ond nyni ein dau; ond os deuwch yn alluog, ac os gwelwch un o'm plant rywbryd, ac y meddyliwch y bydd yn dda iddo wrtho, gallwch ei roddi iddo ef.' Pan oedd ysgrifenydd y Cofiant hwn yn yr Athrofa, adroddodd Mr. Rowlands yr hanes wrtho, a thalodd y penadur iddo. Trigai egwyddor gonestrwydd yn ddiau yn ei galon, ac nid oedd dichell yn ei yspryd. Yr