Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn ddigyfnewid mewn ffyddlondeb i'w gyfeillion. Yr oedd yn Ymneillduwr egwyddorol a chydwybodol, yn gadarn a diysgog fel craig dros yr hyn a gredai ef oedd y gwirionedd. Ymgasglodd amrywiol o'i frodyr yn y weinidogaeth, a lluaws mawr o'i gyfeillion, i'w angladd. Claddwyd ei gorph wrth ymyl porth Capel Ebenezer, yn y llecyn â ddewiswyd ganddo i'w ran farwol gael gorphwys hyd ddydd caniad yr udgorn, a gosodwyd bedd-faen hardd arno gan ei anwyl gyfeillion. Derbyniwyd amryw nodiadau byrion am dano oddiwrth amryw o'i gydnabyddion, y rhai y bydd yn dda gan y darllenydd eu gweled:—

Dywed y Parch. E. Davies, Trawsfynydd, fel y canlyn:—"Nid oes genyf yn bresenol ddim yn neillduol i'w ddywedyd am yr hen frawd. Nid oes un amheuaeth ar fy meddwl nad ydoedd yn ddyn gonest, diweniaeth, a duwiol."

Y Parch. Morris Jones, diweddar o'r Varteg:—"Dymunwn eilio tystioliaeth dda i'm diweddar frawd a'm hen gymydog. Yr oeddwn yn adnabyddus o hono pan y dechreuodd bregethu, a phan yn y Neuaddlwyd, ac yn gymydog agosaf ato tra y bu yn gweinidogaethu yn Ebenezer, Pontypwl. Yr oedd Mr. Rowlands yn ddyn diwyd a bucheddol iawn. Byddai i'w gael yn wastadol yn ei lyfrgell, neu ar yr ystol, neu bulpud yn gweddio a phregethu. Nid ydwyf yn gwybod i ddyn na diafol gael lle i agor eu genau i'w absenu, oblegid cam-fucheddu. Yr oedd yn hoffi darllen tuhwnt i nemor o'i frodyr. Gwyddai fwy nag a ddywedai. Yr oedd ei weinidogaeth yn egwyddorol a chynhyrfiol, yn hytrach nag yn ddeniadol."

Y Parch. Edward Williams, Dinas:—"Dyn caredig a chyfeillgar iawn welais i Mr. Rowlands. Bum yn benthyca llawer o lyfrau ganddo, o bryd i bryd, ac yn eu dwyn o Ebenezer i Blaenafon i'w darllen. Cefais lawer o gynghorion a hyfforddiant ganddo yn nechreu fy ngweinidogaeth—mwy hwyrach na chan neb arall, mewn pethau gwir ymarferol a buddiol. Fel gwendid yn Mr. Rowlands, meddyliwn ei fod yn rhy dueddol i feithrin dislikes. Meithrinai gyfeillgarwch, ond yr wyf yn barnu ei fod yn euog o fod yn rhy dueddol i antipathy tuag at ambell un. Ambell bregethwr hwyrach fyddai o'r Coleg y buasai efe yn meddwl fod ychydig