Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Evan Rowlands, Ebenezer Pontypwl.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o chwydd athrofaol ynddo; ond mae genyf fi barch mawr iddo, ac ymddygodd tuag ataf yn gyfeillgar a thadol bob amser. Trwyddo ef fel crybwyllydd am i mi dd'od yma i supplio, y daethum i'r Dinas gyntaf.”

Y Parch. M. Morgans, Bethesda-y-fro:—"Bum yn cyd-drafaelu, yn cyd-bregethu, ac yn cyd-gysgu gydag ef lawer gwaith, a gallaf ddweyd fod yr anwyl Rowlands yn berarogl Crist yn mhob man, ac yn mhob peth."

Mr. Edmund Jones, Ebenezer:—"Pe buasai Mr. Rowlands farw 10 mlynedd yn gynt, buasai yn marw yn nghanol ei enwogrwydd a'i ddefnyddioldeb, a buasai llawer mwy o son am dano; ond fel y bu, y mae yn debyg, y gwelodd y Bôd mawr oreu iddi fod."

Yr ydym yn gadael ein hanwyl frawd bellach, wedi gwneud cyfiawnder â'i Gofiant hyd y gallem. Cyfarfod llawen gaffo awdwr a darllenwyr y Cofiant hwn ag ef yn ardaloedd anfarwoldeb. Amen.

GALAR-GAN
AR FARWOLAETH Y
Parch. EVAN ROWLANDS, Ebenezer,
PONTYPOOL,
Yr hwn a fu farw Ebrill 23ain, 1861, yn 68 mlwydd oed.
Gan. Mr. EDMUND JONES, Ebenezer.

SON am Rowlands, Ebenezer,
Sydd i mi'n ddifyrwch mawr,
Yn ei gwmni gyda phleser
Gynt y treuliais lawer awr;
Mewn ymddiddan cyfrinachol
Am wahanol bynciau'r dydd;
Neu am grefydd ymarferol,
Ynte athrawiaethau'r ffydd.

Mynych hefyd bûm yn gwrando
Arno gyda budd a blas
Yn cyhoeddi a darlunio
Trefn iachawdwriaeth gras;
'Rhyn a wnai ar rai adegau
'Mhell tuhwnt i ddysgwyl dyn;
Esgyn byddai'r fath ddring-raddau,
Nes anghofio braidd ei hun.