oedd yn gadarn fel y dderwen, yn bur fel y dur, ac yn ddysglaer fel y grisial.
Elfen nodedig ac amlwg iawn yn mywyd Dr. Everett oedd ymroddiad. Yr oedd yn ddi-ildio yn mhob peth yr ymaflai ynddo; beth bynag a gymerai mewn llaw, taflai ei holl enaid i'r gwaith. Pan edrychir arno yn ddyn ieuanc yn yr athrofa yn Ngwrecsam, gwelir ef a'i holl egni yn casglu gwybodaeth, yn codi llawer o groesau, ac yn tori trwy lawer o rwystrau i fynu dysgeidiaeth, er addasu ei hun i fod yn weinidog cymwys y Testament Newydd.
Elfen nodedig arall yn mywyd Dr. Everett oedd ei garedigrwydd. Yr oedd mor dyner ei galon, a llawn o deimladau tosturiol fel pan welai ryw un mewn angen y gwnai ei oreu i'w gysuro a'i gynorthwyo. Cafodd lluaws o bregethwyr ieuainc, o bryd i bryd, brofion arbenig o'i garedigrwydd. Ymddygai yn dirion iawn atynt bob amser, a byddai yn sicr o ddyweyd a gwneyd rhyw beth i'w sirioli. Ei ddull serchus pan elai rhyw un ato i gasglu at achos teilwng, fyddai cymeryd y llyfr yn siriol a dirodres o'i law, ac ysgrifenu ei enw, ac yn gyffredin rhoddai swm galonogawl wrtho. Yna cymerai y llyfr ac elai at bawb yn y teulu, ac yn gyffredin byddai yr amnaid leiaf oddiwrtho yn ddigon effeithiol i beri i bawb gyfranu yn llawen. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i bob gwelliant, yn foesol, crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol.
Ond o bob peth nodedig ac amlwg yn mywyd Dr. Everett, duwioldeb oedd yr amlycaf. Yr oedd yn un mawr mewn duwioldeb, yn un cyson a gwastad yn ei ymarweddiad. Ni chafodd neb erioed achos i amheu ei grefydd. Yr oedd ei lwybr yn lân fel y goleuni,