yn llewyrchu fwyfwy hyd ganol dydd. Yr oedd yn un mawr fel gweddiwr; byddai bob amser yn dra difrifol a syml mewn gweddi. Yr oedd yn amlwg i bawb ei fod yn byw mewn ysbryd gweddi, ac yn dal cyfrinach yn ddibaid a'i Dad nefol.
Yr oedd yn meddu calon eang a rhyddfrydig at bawb sydd yn caru Iesu Grist mewn purdeb. Yr oedd ei awydd yn ddiorphwys am gael y byd i gyd i Iesu Grist, ac yn y cymeriad dysglaer a bendigedig hwn y troediodd ei oes faith a gwir ddefnyddiol, ac y gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd.
Dyfyniadau o Bregeth ar Farwolaeth Dr. Everett.
GAN Y PARCH, SEM PHILLIPS.—Oddiwrth JOSHUA i: 2.
Yr oedd Dr. Everett yn fawr ei wroldeb, ac yr oedd ei wroldeb yn cael ei ategu gan wirionedd, a'i nodweddi gan ras. Nid brwynen oedd a blyg ei phen o dan bwys pob awel; ond y dderwen, yr hon a ddeil i gynddaredd yr ystorm ei hysgwyd hyd y gwraidd, ac a fydd yn gadarnach wedi yr ystorm na chyn hyny. Taflai ei hun yn y modd llwyraf a mwyaf egniol a pharhaol i'r hyn a gredai yn gydwybodol oedd yr ochr iawn. Nid oedd na gweniaeth nac ofn gwg dynion a wnai iddo droi oddiar yr hyn a ymddangosai iddo fel llwybr ei ddyledswydd. Nid oedd yn cymeryd ei lywodraethu gan gyfraith cyfleusdra, ond dilynai yn ddewr a di-droi-yn-ol yr hyn a ystyriai yn uniawn. Dyn a argraffodd ei ddelw ar ei oes ydoedd.
Yr oedd gelyniaeth dwfn ynddo yn erbyn arferiadau ofer, llygredig, gwag a diles, ac yr oedd ynddo