Pregethai yn felus, sobr, a chall, fel ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen; ond byddai yr hen bob amser yn gwisgo agwedd hollol newydd.
13. Nad oes nemawr o'i gyffelyb yn ei ffyddlondeb i fyned at ei gyhoeddiadau. Elai trwy bob ystormydd, ar bob achos, yn mhell ac yn agos, fel y byddai galwad am dano. Elai i angladdau i ardaloedd pell yn aml, a beth bynag fyddai yr hin, byddai yn sicr o fod yno yn brydlawn. Llawer gwaith y gorfu iddo adael ei geffyl ar ol, gan mor fawr yr eira ar y ffyrdd, a myned yn ei flaen ar ei draed trwy y storm. Ond heddyw gwyr am gyflawniad y geiriau, "Da, was da a ffyddlawn : dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Ni raid teithio trwy yr ystormydd mwyach. O hyn allan mae yn gorphwys oddiwrth ei lafur.
14. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel gwrandawr yn gwrando ar ei frodyr. Drwg genyf ddyweyd, ond y mae'n eithaf gwir, mai dosbarth gwael iawn fel gwrandawyr yw llawer o bregethwyr, ac yn neillduol pregethwyr ieuainc hunanol, ac y mae ambell hen bregethwr yn berchen ar dalent fawr i ddiystyru ei frodyr pan fyddont yn yr areithfa. Ond pan fyddo ei gyfaill yn pregethu, pwy ond efe fydd yn agor ei lygaid, a'i Amen fawr, a mawr fydd ei swn y pryd hwnw. Ond nid gwrandawr felly oedd ein hanwyl dad, ond yr oedd fel pechadur yn gwrando cenadwri oddiwrth ei Dduw, a'i Amen anwyl, llawn o deimlad, a'i ochenaid ddwys, a'i ddagrau gloywon, yn dangos fod ei enaid yn cael gwledd ar fwrdd ei Dad, pwy bynag fyddai yn traddodi y genadwri nefol.
15. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel cyfaill ffydd-