lawn. Cyngorai fel cyfaill, cydymdeimlai fel cyfaill, carai fel cyfaill, a chynorthwyai fel cyfaill. Gallai brawd ymddiried ei oll a'i bob peth iddo, a bod yn sicr na wnelai byth ei fradychu, ac na ch'ai un byth siomedigaeth ynddo.
16. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel golygydd. Cadwodd y Cenhadwr yn bur; cadwodd bob sothach gwael allan o hono, fel y dywedodd y Parch. D. Rees, Llanelli, hen olygydd y Diwygiwr, fod y Cenhadwr yn tra rhagori ar holl gyhoeddiadau Cymru. Ni chaffai dim ymddangos ynddo heb fod yn meddu tuedd at wneyd daioni, ac ni roddid ef yn gyfrwng i neb fflangellu eu gilydd ynddo. Buasai yn dda gan lawer gael ynddo ychwaneg o waith y golygydd ei hun; a'i ymwadiad mawr oedd yr unig reswm na chawsent hyny. Yn y Cenhadwr yr ydoedd yn arweinydd i'n cenedl yn y wlad hon. Dysgwylient am ei farn ef bob amser ar bob achos gwladol o bwys, ac yr oedd ei ddylanwad yn fawr ar feddyliau y dosbarth mwyaf gwybodus trwy yr holl wlad; oblegid yr oedd yn bwyllog, yn deg, ac yn dirion iawn wrth bawb. Efengylydd ydoedd ar bob achos. Ni ddefnyddiodd air chwerw ac atgas wrth y meddwyn, nac am dano, nac am y caeth-feistri erioed; a'n gobaith yw y caiff y Cenhadwr ei ddwyn yn mlaen yn yr un ysbryd addfwyn eto.
ADDYSGIADAU.
(1.) Fod tywysog a gwr mawr wedi syrthio, ond nid dan draed ei elynion. Aeth fel twysen addfed; ei gorph i'r bedd, a'i enaid i'r nefoedd.
(2.) Fod ei le yn wag yn mhob man lle yr arferai fod.
(3.) Bydd ei enw yn perarogli am hir amser. Per-