symud i'w deyrnas, gan ei fod yn frenin yn mhob man eisoes? a boddlonwyd y rhai presenol, fel na ddywedodd neb yn erbyn yr hyn a ddywedodd yr hen wr Cadwaladr. Ond yr oeddwn i y pryd hwnw yn meddwl y gwyddai yr hen bregethwr yn dda fod gwahaniaeth rhwng awdurdod Crist fel Brenin, a'i Freniniaeth rasol ar galonau y credinwyr. Mor hawdd a hyn yna oedd boddloni rhai pobl oeddynt yn selog iawn yn erbyn pob peth newydd, neu yr hyn a alwent hwy yn newydd.
Yn y flwyddyn 1831 daethum inau i'r America, a chan i mi aros ychydig yn Utica, cefais gyfle i'w weled a'i glywed, a chyfrinachu ychydig ag ef. Yr oedd ef yma tuag wyth mlynedd o'm blaen i, ac yr oedd wedi gweled llawer o bethau nas gwyddwn i ddim am danynt, a rhoddodd aml gyngor i mi fel un newydd ddyfod i'r wlad. Yr oedd ef ar y pryd hwnw ar droi at y Saeson i weinidogaethu, a minau yn dechreu gyda'r Cymry yn Utica. Byddwn yn cael cyfle i'w wrando yn y cwrdd mawr yn Steuben yn flynyddol; ac y mae yn gofus genyf am un bregeth neillduol o'i eiddo yno, oddiwrth y testyn, Heb. ii: 10, "Canys gweddus oedd iddo ef, &c." Penau ei bregeth oeddent bedwar: Yn I. Y dyben mawr mewn golwg, sef, "Dwyn meibion lawer i ogoniant." Yn II. Y ffordd a gymerodd Duw i wneyd hyny, sef, "Perffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddyoddefiadau." Yn III. Perthynas trefn iachawdwriaeth a'r bydysawd, "O herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth." Yn IV. Rheswm y Jehofa dros hyny, "Canys gweddus oedd iddo ef." Pregeth ragorol iawn oedd hono, yn enwedig am berffeithio Crist trwy ddyoddef-