iadau. Yr ydoedd yn berffaith Dduw erioed, a pherffaith ddyn trwy ei gnawdoliaeth, ac yn berffaith Iawn trwy ei ddyoddefiadau. Ac o barth i berthynas y drefn a'r bydysawd, dywedai mai nid trefn o'r neilldu ydoedd, ond trefn ger bron ac yn wyneb y cyfan i gyd; yn wyneb y ddeddf a'r llywodraeth a holl fodau moesol y llywodraeth i gyd, angylion a seraphiaid y gogoniant, a seintiau y nef, a phawb yn uffern, ac ar y ddaear hefyd, "O herwydd yr hwn y mae pob peth." Rhoddodd foddlonrwydd mawr yn y bregeth hono i lawer oedd yn ymofyn am gysondeb trefn fawr y nefoedd i gadw pechaduriaid y ddaear. Y pryd cyntaf i mi ei gyfarfod ar ol hyny oedd yn Utica, yn mis Mawrth, 1838, mewn cwrdd chwarter gan yr Annibynwyr, a minau yn myned yno i ymuno a'r Undeb hwnw fel gweinidog. Yr oedd golwg isel a di-lewyrch ar achos crefydd yn mysg pob enwad o'r Cymry ar y pryd.
Yn Utica yr oedd un Knapp, hen ddiwygiwr gyda y Bedyddwyr Seisonig, yn cadw cyrddau diwygiadol yn nghapel mawr y Presbyteriaid, o'r tu isaf i'r gamlas, er's rhai wythnosau, ac yr oedd llawer o'r Cymry yn arfer myned i'w gyrddau ef. Yr oedd un William H. Thomas, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Utica, yn mynychu y cyrddau hyny, ac yn eu mwynhau yn dda. Yn Utica, yr hwyr cyntaf cyn dechreu y cwrdd chwarter, nesaodd y Parch. James Griffiths, gweinidog y lle, ataf, a dywedodd wrthyf, ei fod yn dysgwyl y caem ni gwrdd da, ac adroddodd i mi am y cyfarfodydd a gynelid gan Knapp yn mysg y Saeson, a bod amryw o aelodau ei eglwys ef yn eu mynychu, a than radd o deimlad. Aed yn mlaen i bregethu nos Fawrth. Nis gallaf fi gofio dim am y