Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ser fel yna, pan oedd yr achos yn ei ddirmyg iselaf, y gwelodd Mr. Everett yn dda daflu ei holl ddylanwad o blaid y caethwas gorthrymedig.

Y fath oedd lledneisrwydd, boneddigeiddrwydd a thawelwch Mr. Everett, yn nghyd a phurdeb ei ymarweddiad, fel yr arbedwyd ef i raddau rhag llymder yr erledigaethau hyny a oddiweddasant ddiwygwyr mwy byrbwyll a thanbaid. Ond er maint ei addfwynder efengylaidd, dyrchafai ei lais fel udgorn yn erbyn pechodau yr oes, yn enwedig caethwasiaeth. Dydd y pethau bychain oedd hi gyda'r achos gwrthgaethiwol am lawer o flynyddoedd, a chwerddid am benau Mr. Everett a'i fintai fechan fel y chwarddai Sanbalat a Tobia am ben yr Iuddewon pan mewn gwendid yn ymdrechu ail-adeiladu muriau Jerusalem. Nid doeth aros yn faith ar yr amseroedd hyny, na chondemnio yn fyrbwyll y rhai a erlidiasant y gwrthgaethiwyr borcuol. Yr oedd llawer o honynt yn wyr ac yn wragedd da a duwiol, ac yn credu yn sicr eu bod ar lwybr dyledswydd. Nid oeddynt wedi cymeryd amser i edrych ar gaethiwed yn ei holl echryslonrwydd. Mae y rhan fwyaf o honynt sydd eto ar dir y byw wedi llwyr gyfnewid eu barn er ys llawer o flynyddoedd, ac eraill wedi croesi yr afon mor selog yn y ffydd wrthgaethiwol ag y bu Mr. Everett ei hunan erioed.

Flynyddoedd cyn ei farwolaeth cafodd y pleser gogoneddus o weled y gadwyn gaethiwol olaf yn cael ei dryllio, a'r caethwas olaf yn cael ei ryddhau. Onid melus i'w ysbryd oedd cofio fod pob anadl yn ei fywyd hirfaith, wedi bod o blaid y caeth was ac iawnderau dyn? "Efe a welodd o lafur ei enaid ac a ddiwallwyd."