Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

au yn llifo dros ei ruddiau, a bloeddiai dair gwaith, "Arfau i lawr! Arfau i lawr! ARFAU I LAWR!" Yr oedd yr olygfa fel bron yn wyrthiol. Yr oedd nerthoedd y byd a ddaw yn cydfyned â'r genadwri; saint Duw yn bloeddio buddugoliaeth, a gwrthryfelwyr rhoddi eu harfau i lawr, ac yn llefain am drugaredd.



Dr. Everett fel Gwrthwynebwr Caethwasiaeth.

GAN Y PARCH. ERASMUS W. JONES.

Y mae canoedd o'n pobl ieuainc na wyddant fawr am deimladau y werin, o berthynas i'r pwnc o gaethwasiaeth Americanaidd, bymtheg-ar-hugain o flynyddoedd yn ol. Anhawdd iddynt amgyffred dyfnder y gwarth a'r dirmyg a deflid ar yr ychydig bersonau a elwid yn Abolitionists, yn mhlith y Cymry, yn gystal ag yn mhlith eraill. Gwridai gwynebau gan ddigofaint, os meiddiai gwr Duw gymaint a chofio y caethwas truan yn ei weddi gyhoeddus yn y cysegr; ac nid oedd dim yn fwy poblogaidd a pharchus nag erlid a gwawdio y gwrthgaethiwyr. Dyma oedd y teimlad cyffredin trwy y wlad, ac yn yr holl eglwysi o'r bron. Dynion mwyaf parchus dinas Utica yn uno i dori fyny a mobio cwrdd rheolaidd a thawel a gynelid yn y ddinas gan gyfeillion y caethwas! Pregethwyr perthynol i'r Trefnyddion Esgobol yn cael eu dwyn i gyfrif a'u ceryddu o flaen conferences, am fod yn euog o fod yn bresenol mewn cyrddau gwrthgaethiwol ! Dyma oedd y teimlad cyffredinol mewn gwlad ac eglwys. Y Whigs a'r Democrats yn ymryson fel pleidiau gwladol pa un a allai ymostwng iselaf o flaen y ddelw fawr gaethiwol ar wastadedd y De. Mewn am-