Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfran o bob un yn llawn o'r elfen argyhoeddiadol. Os da yr wyf yn cofio, ni fyddai byth yn arfer yr hen hwyl gynghaneddol Gymreig; ond er hyny byddai ei lais ar gywair cymedrol, ac yn llawn melusder. Nid wyf yn cofio i mi erioed glywed gair o'i enau, tra yn yr areithfa, a barai i'r bobl wenu. Nid oedd dim o hyn yn ei natur. Buasai y fath beth o'i enau ef yn hollol annaturiol, ac yn achos o syndod i'w wrandawyr. Nid wyf yn dywedyd hyn er ei glod na'i anghlod, ond dyna ydoedd natur y dyn.

Y mae un bregeth arbenig o eiddo Mr. Everett ar fy meddwl, ac y mae ugeiniau eto yn ardaloedd Trenton, Steuben a Remsen yn cofio yr amser, ac yn cofio y bregeth. Traddodwyd hi yn nghwrdd mawr y y diwygiad yn y "Capel Ucha'," yn y flwyddyn 1838, ychydig wythnosau cyn ei sefydliad fel gweinidog yn Steuben. Y testyn oedd 2 Cor. v. 20. “Am hyny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, &c." Yn unol ag ysbryd y testyn, anerchai y rhan annychweledig o'r gynulleidfa fel gwrthryfelwyr o dan arfau yn erbyn y rheolaidd Frenin, a galwai y gweinidogion oedd yn y cwrdd yn "Genhadau dros Grist," yn ymdrechu i'w dwyn i gymod â Duw. "Ond," meddai y pregethwr, a difrifwch goruwch naturiol ar ei wyneb, "nis gallwn fel cenhadon addaw dim i chwi fel gwrthryfelwyr. Rhaid i chwi roddi yr arfau yna o'r neilldu cyn y gall eich brenin weinyddu maddeuant." Ac fel yna aeth yn mlaen gan anerch y gwrthryfelwyr, ac yn cynyddu mewn dwysder bob moment, a'i lais mor glir ag udgorn arian, tra yr edrychai y gynulleidfa fawr arno fel un o brif swyddogion yr orsedd. O'r diwedd, safai a'i ddwylaw yn ddyrchafedig tua'r nefoedd, a'i ddagr-