Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Parchn. Robert Everett, William D. Williams, James Griffiths, William H. Thomas a'r ysgrifenydd. Buodd Mr. Everett yn help mawr ar gyfrif ei oedran, a’i uchel gymeradwyaeth yn y lle, ac yn ngolwg y genedl. Dyna fel y dechreuodd y diwygiad mawr yn y flwyddyn 1838, yr hwn a barodd dro mawr yn achos crefydd yn Sir Oneida, ac a hir-gofiwyd am dano. Eir yn mlaen i roddi parhad o'i hanes yn Steuben, &c., &c.

[Dyna i gyd a gawsom o'i hanes. Dichon mai llesgedd henaint ataliodd yr hen frawd parchus i orphen cyflawni ei amcan.]




Dr. Everett fel Pregethwr.

GAN Y PARCH. ERASMUS W. JONES.

Fel pregethwr, yr oedd Mr. Everett, yn mlynyddoedd ei nerth, yn dra phoblogaidd; a chlywais fod ei weinidogaeth foreuol yn yr Hen Wlad yn llawn o dân. Nid wyf yn sicr fy mod wedi ei glywed yn ei ddyddiau goreu, ond yr wyf yn hollol sicr i mi glywed pregethau o enau Mr. Everett nad anghofiaf mo honynt byth. Nid rhyw lithrig iawn fyddai yn ei "ragymadrodd" i'w bregeth, ond cynyddai mewn rhwyddineb wrth fyned yn mlaen; ac nid yn unig mewn rhwyddineb, ond hefyd mewn teimlad, dwysder, a dyddordeb. Dechreuai ei lygaid duon fflamio, canfyddid gwresawgrwydd enaid yn ei wynebpryd, a chredai y gwrandawyr eu bod yn gwrandaw ar genadwri o'r orsedd. Nid â rhyw bynciau mawrion, dyryş, y byddai Mr. Everett yn ymyraeth, ond cymerai wirioneddau eglur yr efengyl, ac a'u gwasgai adref at gyflwr y pechadur. Byddai ei holl bregethau yn ddifrifol, a rhyw