Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dadleu drosom, a thros ei blant, nes oedd y cyfan yn foddfa o ddagrau. Yna cynygiodd rhyw un ar fod rhai o'r eisteddleoedd ar y dde yn cael eu gwaghau, i roddi prawf ar wahodd rhai oedd dan deimlad i ddyfod yn mlaen iddynt yn ngwydd pawb, a'r brawd Everett a wnaeth wahoddiad grymus i wrthgilwyr ac eraill i ddangos eu penderfyniad—dangos eu hochr, a dilyn Iesu; ac yn y fan llanwyd y lleoedd gan rai newydd, a hyny yn ngwydd pawb; a chariodd hyny ddylanwad cryf ar yr edrychwyr, fel yr oedd yr holl dorf yn ymdoddi i lawr; rhai yn gweled eu ffryndiau, rhai eu perthynasau agosaf, a rhai prif wrthddrychau eu gweddiau yn tori drwyddi, ac yn dangos eu bwriad i fyned ar ol Iesu Grist.

Yn y fan penderfynwyd i'r cwrdd barhau dros ddyddiau yn mlaen; dechreu pob oedfa â chwrdd gweddi; ac ar ol pregethu, rhoi cyfleusdra i rai o'r newydd ddod yn mlaen i'r meinciau gweigion, a pharhaodd felly am wyth o ddyddiau—tair oedfa bob dydd; ac erbyn yr wythfed dydd yr oedd llawr y capel hwnw yn llawn o rai newydd; cynwysai, yn ddiau, o dri i bedwar cant o rai newydd. Yna cyhoeddwyd society nos y nawfed, sef nos Wener, i fod yn y tri chapel Cymreig, ac anogwyd pawb i wneyd eu meddyliau i fyny, a myned i'r man, ac at yr enwad a ddewisent, a'u bod i gael eu gadael yn gwbl rydd, heb i neb geisio traws-lusgo rhai at ei enwad ei hun. Aeth y pregethwyr dyeithr bawb i'w fan, gan adael i'r bobl gartref ddwyn y gwaith yn mlaen yn mhellach, a chafwyd ychwanegiad mawr at y tri achos Cymreig yn y ddinas, a chryn ychwanegiad mewn manau eraill o amgylch. Y pregethwyr a gydymdrechasant yn hyn oeddent, y