Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y tro cyntaf erioed i mi weled Mr. Everett ydoedd yn Steuben, yn amser yr adfywiad crefyddol mawr a fu yno yn 1838. Nid oeddwn y pryd hwnw ond ieuanc iawn; eto yr wyf yn cofio yn dda, fy mod yn eistedd wrth ffenestr, yn ochr orllewinol yr hen gallery oedd y pryd hwnw yn y capel, pan ddaeth Mr. Everett mewn cerbyd i'r buarth (yr oedd y sheds yn llawn o gerbydau), ac y mae yr argraff a adawodd ei ymddangosiad cyntaf hwnw arnaf yn aros yn fyw yn fy meddwl hyd y dydd hwn. Yr oedd, fel y crybwyllwyd, yn adeg o adfywiad crefyddol grymus iawn y pryd hwnw yn y lle; a chyfarfodydd pregethu, cyngori a gweddio yn cael eu cynal ddydd a nos am rai wythnosau. Ac yr wyf yn cofio fod cryn son fod Mr. Everett i fod yno ar y diwrnod crybwylledig, fel yr oedd fy nysgwyliadau wedi eu codi yn uchel iawn y diwrnod hwnw; oblegid yr oeddwn yn cael fy nysgu yn y teulu gartref i goledd syniadau uchel iawn am Mr. Everett, cyn ei weled erioed, canys yr oedd enw Mr. Everett yn barchus yn ein teulu ni er ys pan wyf yn cofio gyntaf. Nid oedd neb, byw na marw, yn America, nac yn Nghymru chwaith, ond Dr. George Lewis, Llanuwchlyn, a'r Parch Wm. Williams, o'r Wern, mor berffaith yn ngolwg fy nhad a Mr. Everett; ac ni flinai fy mam ychwaith yn son am ei ragoriaethau digyffelyb. Cefais fy nysgu, gan hyny, er yn blentyn i ystyried Mr. Everett yn un o ddynion mwyaf rhagorol y ddaear, ac yn un o gymwysaf weinidogion y Testament Newydd. A darfu i'r olwg gyntaf hono a gefais arno trwy y ffenestr, yn hen "Gapel Uchaf," Steuben, sylweddoli ar unwaith i'm meddwl plentynaidd y syniadau uchel a goleddaswn am dano.