Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae yn dda genyf allu dwyn tystiolaeth, ar ol adnabyddiaeth lled drwyadl o hono, am y rhan fwyaf o'r deugain mlynedd sydd wedi pasio er hyny, na ddygwyddodd dim erioed i newid y syniadau uchel am dano a goleddaswn ar y cyntaf; namyn i'w codi yn uwch, a'u gwneuthur yn fwy sefydlog a digyfnewid. Yr oedd yn wir megys "angel Duw;" ac yn un o "werthfawr feibion Seion; a chystal ag aur pur." Nid wyf yn gallu cofio dim am bregeth Mr. Everett y tro cyntaf hwnw y gwelais ef; er fod yn lled sicr genyf iddo bregethu. Ei ymddangosiad syml a difrifol, a'i drwsiad gweddus a da, yn fwy na dim arall y tro hwnw, a adawodd argraff ffafriol ar fy meddwl am dano fel gwas yr Arglwydd a gweinidog yr efengyl, yr hyn na wnaeth adnabyddiaeth helaethach a llawnach o hono ar ol hyny, ond ei ddyfnhau a'i wneyd yn annileadwy.

Yr oedd genym chwech neu saith milltir o ffordd i fyned i'r "Capel Ucha'," a hyny hefyd ar ein traed, oblegid nid oedd cerbydau mor gyffredin y pryd hwnw ag ydynt yn awr; a phe buasent, nid llawer o gysur gawsai neb o deithio ynddynt, yn enwedig pan na byddai eira, gan mor newydd a garw oedd y ffyrdd. Felly nid oedd y teulu oll yn gallu cael y cyfarfodydd dyddiol hyny yn ddigoll, ac nid wyf yn gallu cofio i mi weled Mr. Everett yn ystod y cyfarfodydd hyny ond yr unwaith a grybwyllwyd. Ac er iddo yn fuan ar ol hyny ddyfod i Steuben yn weinidog, ychydig ydwyf yn allu gofio am dano, am rai blynyddau ar ol hyny, oblegid sefydlwyd ysgol Sabbothol, a dechreuodd y Parch. Morris Roberts ddyfod i bregethu i'n cymydogaeth (Bethel), ac anfynych ar ol hyny y byddai neb