Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cofiwn fel y dywedai wrth sylwi yn olaf ar hyn, mai "pren y bywyd yw hi," ac mai yn mharadwys yr oedd, ac y mae, pren y bywyd yn tyfu; ac mai gwir grefydd yn unig a adferai i ddyn yr hyn a gollodd drwy bechod.

III. Gwynfydedigrwydd y rhai sydd yn feddianol ar y ddoethineb hon. Sylwai mai trwy gloddio yr oedd cael gafael ar y ddoethineb hon, ac mai gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi, sef, 1. Yn y waredigaeth a gaiff. 2. Yn y mwynhad presenol a rydd. 3. Yn y gobaith a gynyrcha. Codai ei sylwadau goleu ac effeithiol ddymuniad cryf ynof ar y pryd am gael gafael ar y ddoethineb a ganmolai mor fawr.

Dro arall clywais ef yn pregethu oddiar 1 Cor. xii. 13: "Oherwydd trwy un ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corph, pa un bynag ai Iuddewon ai Groegwyr, caethion ai rhyddion, ac ni a ddiodwyd oll i un ysbryd;" pryd y traethai yn swynol a thoddedig iawn ar Undeb Eglwys Crist. Sylwai yn

I. Ar natur undeb Cristionogol, sef, 1. Nid fod gwahanol enwadau yn rhoddi i fyny eu barnau a'u dulliau neillduol. 2. Nid rhoddi i fyny athrawiaethau y gair. 3. Nid tewi ar ryw faterion er mwyn heddwch. Ond yn 1. Undeb yn ysbryd yr efengyl i feithrin ysbryd cariad, ac i oddef ein gilydd mewn cariad. 2. Cydweithrediad yn erbyn Anghrist a'r holl bethau sydd yn cyfodi yn erbyn achos Duw.

II. Anogaethau i undeb Cristionogol: 1. Un yw eglwys Dduw. 2. Yr un yw dybenion ei gosodiad, sef, gogoneddu Duw, rhwyddhau sancteiddrwydd ei bobl, a dychwelyd y byd at Dduw. 3. Yr un berthynas sydd rhyngddynt oll â Duw—oll yr un mor