Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wirioneddol blant iddo, yr un mor anwyl ganddo, ac agos ato. 4. Ewyllys yr Arglwydd yw i'w bobl fod yn un, Ioan xvii. 21. 5. Yr un rheol ogoneddus sydd ganddynt i fyw wrthi. 6. Y mae arwyddion fod yr Arglwydd yn ei ragluniaeth yn gwneuthur ei bobl yn un.

III. Y modd i gyrhaedd y dyben gogoneddus, sef, 1. Trwy i bob un ymdrechu darostwng anghariad yn ei fynwes ei hun. 2. Dylai fod yn fater o weddi yn gyffredinol. 3. Cydlawenhau yn llwyddiant gwaith yr Arglwydd yn ei holl ranau. 4. Cyfnewid doniau, newid pregethwyr, &c. 5. Cynal cynadleddau cyhoeddus er meithrin undeb. 6. Actio allan egwyddor crefydd yn ein bywyd.

Dyna fel y nodais i lawr y penau wrth ei wrando, ond maent yn mhell o gyfleu y bregeth yn ei gwres a'i bywyd fel y traddodai hi.

Cefais adnabyddiaeth helaethach a mwy trwyadl o Mr. Everett cyn hir ar ol hyny drwy y Cenhadwr—y rhifyn cyntaf o'r hwn a ddaeth i'n ty, ac y mae yn ymweled yn fisol a'm hanedd, o hyny hyd yn bresenola thrwy ei "Gatecism Cyntaf," yr hwn a arferid yn ein hysgol Sabbothol, a'r hwn a ddysgais oll, ac a adroddais allan, drosodd a throsodd lawer o weithiau. Daethum wedi hyny yn fwy cydnabyddus ag ef eto, mewn cysylltiad a'r achosion dirwestol a gwrthgaethiwol, y rhai yn y blynyddoedd hyny a dynent sylw cyffredinol, ac a fawr gynhyrfent ein gwlad. Yr oedd ei anerchiad argraffedig ar Gymedroldeb yn ein ty ni er cyn cof genyf. Yr oedd yn un o'r ychydig lyfrau a feddem, yn y rhai y dechreuais ddysgu darllen Cymraeg. Yr oedd fy nhad a'm mam yn llwyr-ym-