Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eriad. Yr oedd hefyd yn arbenig o fwyn a boneddigaidd. Nid oedd dim o'r dywalgi, yr arth a'r blaidd ynddo. Yr oedd yn fwyn heb fod yn wasaidd, ac yn foneddigaidd heb fod yn wenieithus. Hawdd oedd canfod hyn yn ei wedd. Yr oeddwn un tro mewn ystafell lle yr oedd Dr. Arthur Jones, o Fangor (y pryd hwnw o Gaer), yn dal i graffu ar y darluniau oeddynt yn crogi ar y muriau, a phan y daeth at ddarlun Dr. Everett dywedai, "Ioan-like ydyw o." Meddyliais am yr ymadrodd y foment y gwelais y person ei hun yn Nghymanfa Utica, yn 1869. O'm blaen y safai henafgwr o gorph byr ac eiddil, gwyneb crwn, llygaid gafaelgar, ac edrychiad dwys, mewn gwisg lân a thrwsiadus, a chadach gwyn am ei wddf, yn ol hen ffurf bregethwrol Cymru—dyma Dr. Everett, meddwn wrthyf fy hun, heb ymholi â neb. Na thybied neb ychwaith, er fod ganddo y llygaid mwyneiddiaf, a'r galon dyneraf, ei fod yn orlaith; na, yr oedd ganddo asgwrn cefn cryf, ac ysgwyddau diblygu, a gallech ganfod yn ei wefusau ei benderfynolrwydd diysgog.

Rhaid ei fod yn ddyn ieuanc addawol iawn cyn y cawsai alwad i hen eglwys barchus Dinbych. Enillodd safle uchel yn fuan fel pregethwr, a llenor duwinyddol. Nid oedd yn meddu doniau ffrydlifol a chwyddeiriog, ond yr oedd yn hynod dyner, eglur a swynol. Bu ganddo lais hyglyw, treiddiol a soniarus; ond yr oedd wedi ei golli er ys blynyddoedd. Urddwyd ef yn Ninbych, Mehefin 1af, 1815, ac yn mhen y pum mlynedd wedi hyn cymerodd ran flaenllaw yn lledaeniad yr egwyddorion a elwid y "system newydd"—yr oedd yn un o'r chwech enwogion a gydunasant a'r