Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, i gyhoeddi llyfr ar y mater yr adeg hono. Ni pharodd traethodau erioed fwy o gyffro yn Nghymru. Hefyd cymerodd ran arbenig yn niwygiad mawr yr ysgol Sabbothol oedd driugain mlynedd yn ol yn ymdaenu trwy Ogledd Cymru yn neillduol. Cyhoeddodd "Holwyddoreg i Blant," ac y mae mewn bri mawr yn yr Hen Wlad, yn gystal a'r wlad hon hyd y dydd hwn.

Ymbriododd ag un o ferched yr hen amaethdy enwog Rosa, ger Dinbych, a chafodd wraig dda, a buont mewn undeb priodasol am oddeutu triugain mlynedd. Wedi gweithio yn galed a llwyddianus yn Ninbych am wyth mlynedd daeth i Utica i weinidogaethu, a chafodd fyw i wasanaethu ei enwad a'i genedl yn y wlad hon am oddeutu deuddeg-mlynedd-a-deugain. Fel golygydd y Cenhadwr am bymtheg-mlynedd-arhugain y bu efallai yn fwyaf defnyddiol i'w enwad, ac yn wir i'w genedl. Rhyw ychydig iawn yn mysg llu o lenorion a allent gyflawni y swydd bwysig o olygu cylchgrawn crefyddol; ond cafodd ef ei ddonio gan Dduw i fod yn olygydd. Nid yn unig yr oedd yn ysgrifenydd medrus ei hun, ond yr oedd yn nodedig o graffus i ganfod rhagoriaethau a diffygion eraill. Yr oedd gan yr eglwysi ymddiried yn ei farn, ei degwch, a'i awyddfryd i wneyd daioni. Nid y llenor mwyaf beiddgar a chynhyrfus bob amser yw y golygydd goreu, yn enwedig i gyhoeddiad enwadol. Y mae yn ddiau iddo ef gwrdd ag adegau cynhyrfus ac amgylchiadau cyfyng iawn, a buasai diofalwch neu hunangarwch yn peri blinderau enbyd i'r eglwysi. Gellir olrhain y rhwygiadau eglwysig a'r terfysgiadau enwadol yn fynych i ddiffyg craffder neu orlymder golygwyr newydd-