Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaduron neu gylchgronau. Ond gwyliai ef yn graff bob ysgrif, a gofalai rhag y gwenwyn ar y saethau. Dichon fod rhai yn tybio ei fod yn rhy ochelgar, ond canfyddai ef y perygl yn brydlon. Fel hyn y bu yn wasanaethgar i gadw heddwch yn yr eglwysi a thangnefedd rhwng y brodyr.

Bu yn bleidiwr egniol a chydwybodol i wahanol symudiadau daionus a diwygiadol yr oes, yn wladol a moesol. Teimlai ef dros y caeth oedd yn agored i gael ei werthu o feistr i feistr, er mai du oedd ei groen, a thlawd oedd ei amgylchiadau. Llefarodd yn gryf yn erbyn caethwasiaeth pan yr oedd yn beryglus gwneyd hyny, a phan yr oedd y fasnach yn dwyn elw i filoedd. Gwnaed coffadwriaeth yn y nefoedd am ei sel, ei lafur, a'i ddadleuon teg dros ryddid y dyn a'r ddynes, y meibion a'r merched duon, oeddynt yn agored i fflangell, ac a wylid gan y cwn gwaedlyd. Cafodd fyw i weled eu jubili, ac i glywed eu caniadau. Bu yn ddiysgog nes cyrhaedd ei nod, ond amlygodd dynerwch at ei hen erlidwyr. Ni chafodd dirwest un pleidiwr mwy ffyddlon. Edrychai ar y meddwon mewn caethiwed echryslon, a chysegrodd ei dalent a'i ddylanwad i'w dwyn hwythau i dir rhyddid. Ni roddai ddirwest yn lle crefydd, ond yn wasanaethgar i dywys dynion at grefydd, a'u cadw yn ei llwybrau glan a hyfryd hi. Yr oedd yn elyn cydwybodol i ysmocio, nid oddiar ryw chwim, ond oddiar argyhoeddiad cryf fod myglys yn niweidiol i'r corph, a'r arian a delid am dano yn wastraff o'r fath fwyaf gwarthus. Gwnaeth ei ymddygiad a'i gynghorion dwys a thadol les i laweroedd. Credai mewn diwygiadau gwladol, ac ysgrifenodd ei ran dros y mesurau a farnai er lles ei wlad. Nid oedd