Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arno ofn y Phariseaid a rwgnachent yn erbyn gwleidyddiaeth y gweinidog. Teimlai ei fod yn ddyn a dinesydd, yn gystal a phregethwr yr efengyl. Hiraethai am weled y ddaear yn dyfod yn fwy tebyg i'r nefoedd, a gweithiai ei ran i gael hyny o amgylch. Nid yn y cysgod yr oedd efe pan yr oedd sefydliadau ei wlad yn y perygl, ac egwyddorion llywodraeth deg ar fin cael eu diorseddu. Yr oedd yn y rhengoedd blaenaf yn ymladd yn erbyn twyll a gormes. Mewn gwirionedd, un o gadfridogion dewraf rhyddid a thegwch gwladol oedd y diweddar Dr. Everett.

Fel hyn y treuliodd oes faith gyda phethau crefydd, moesoldeb, a gwleidyddiaeth, nes marw yn ei barch, yn tynu at y pump—a—phedwar—ugain oed. Y mae y llaw fach dyner a boneddigaidd fu yn defnyddio yr ysgrifell i wasanaeth mor bur a gwerthfawr wedi gwywo; a'i gorph yn huno yn dawel yn Steuben, filoedd o filltiroedd o Gronant, y fan y ganwyd ef yn nechreu Ionawr, 1791. Caffed ei blant a'i berthynasau bob tynerwch gan ddynion, er mwyn yr "Hen Olygydd" sydd yn y briddell, a bydded "yr Arglwydd ardderchog" yn noddwr i Seion, ar ol i un o'r gwylwyr ffyddlonaf fyned i orphwysfa lle nad oes gelyn.


Coffadwriaeth Dr. Everett yn West Winfield, N. Y.

WEST WINFIELD, N. Y., Mehefin 26, 1879.

Fy Anwyl Frawd Davies—Deallwyf eich bod yn nglyn a'r gorchwyl canmoladwy o ysgrifenu hanes bywyd y diweddar Barch. Robert Everett, D. D. Mawr lwyddiant a hwyl i chwi yn y gwaith; a phan ddel y gyfrol allan o'r wasg, bydded galwadau am