Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hofir ef ychwaith tra y gwelir ei enw yn dysgleirio ar y gwydr lliwiedig yn addoldy harddaf y pentref.

Yr un mor barchus hefyd ydoedd ei deulu dyddorol. Cofir am Mrs. Everett a'r plant hynaf gyda pharch a phleser. Gallwn ysgrifenu llawer mwy, ond nid oes un angen. O, fy anwyl Davies! y mae y cyfleusdra hwn o gael dywedyd gair o barch i Mr. Everett yn rhoddi i mi bleser annhraethadwy. Ni fum erioed yn deilwng o ddwyn ei esgidiau, ond bob amser talai i mi bob parch a charedigrwydd. Cefais yr anrhydedd, tra eto yn ieuanc, o gyfranogi ychydig yn ei anmharch fel cyfaill i'r caethwas; "yr hyn brofiad a goleddir genyf heddyw, fel rhywbeth o fwy gwerth nag

——————aur Peru,
A pherlau'r India bell."


Yr eiddoch yn rhwymau'r efengyl,

ERASMUS W. JONES.

PENNOD V.

Dr. Everett fel Golygydd a Llenor

Perthyna i'r enwad Cynulleidfaol dri o gedyrn ydynt wedi gwneyd gwasanaeth gwerthfawr ar y maes golygyddol, sef y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau; y Parch David Rees, Llanelli, a'r Parch. Robert Everett, D. D. Bu y cyntaf yn olygydd am un-flyneddar-ddeg-ar-hugain, yr ail am ddeg mlynedd-ar-hugain, ond bu yr olaf wrth y gwaith am un-flynedd-arbymtheg-ar-hugain. Llafuriodd yn helaethach nag un o'r lleill