Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dysgawdwr oedd golygydd y Dysgedydd; dyn araf a phwyllog, yn gweithio ei ffordd yn rymus ar y maes duwinyddol mewn tymor o ymchwiliad a dadleu mawr. Diwygiwr oedd Rees, yn cyfateb i enw ei gyhoeddiad. Yr oedd yn llawn o ysbryd ymosod ar gysylltiad eglwys a llywodraeth, a phob gormes a llygredigaeth gwladol ac ysbrydol. Ond yr oedd rhagoriaethau a phrif nodweddau y ddau yn cyd-gwrdd yn Dr. Everett. Yr oedd yn ddysgawdwr araf, pwyllog, a ffafriol i welliant duwinyddol, fel Jones; ac yn ymosodwr pybyr ar gaethiwed, gormes a llygredigaeth o bob math, fel Rees. Dichon nad anmhriodol cymwyso ato eiriau y bardd Seisonig, Dryden:

"The force of Nature could no farther go,
To make a third she joined the former two."

Wrth ddarlinellu nodwedd Dr. Everett fel golygydd a llenor, sylwn:

1. Ei fod yn llafurus a gweithgar. Anturiaeth anhawdd a beiddgar oedd cychwyn cyhoeddiad misol fel y Cenhadwr yn America. Nid oedd yma ond ychydig iawn o frodyr yr amser hwnw yn meddu ar gymwysderau i'w gynorthwyo, fel gohebwyr. Gallasai un sir yn Nghymru roddi mwy o gymorth i'r golygyddion yno nag a allasai yr Unol Dalaethau oll roddi i Dr. Everett. Gwaith rhwydd yn Nghymru oedd sicrhau deuddeg o erthyglau arweiniol galluog yn mlaen llaw cyn diwedd un flwyddyn, gogyfer a'r flwyddyn ddyfodol, ac ambell un o'r cyfryw yn werth y cyhoeddiad am y flwyddyn ; ond ofer fuasai i neb feddwl am hyny yma. Dan yr amgylchiadau a fodolent y tu yma i'r Werydd yr amser hwnw, yr oedd dwyn y Cenhadwr allan yn brydlawn bob mis yn sicr o fod yn costio