Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llafur caled i'r golygydd. Heblaw yr erthyglau y ceir ei enw wrthynt, byddai yn cyflawni llawer o galedwaith mewn ffordd o gyfieithu, alfyru, a threfnu newyddion y mis, diwygio gwallau, trefnu gohebiaethau, a gorchwylion cyffelyb nad oes dim clod yn deilliaw o'u cyflawni, er eu bod yn trethu amser ac amynedd y golygydd yn drwm. Nid swydd segur oedd ganddo, ac nid pleserddyn llenyddol ydoedd; ond gweithiwr diwyd. Diameu i'w orchwylion llenyddol, yn ychwanegol at ei waith gweinidogaethol, fod yn llafur caled iddo, ac iddynt ei amddifadu o lawer awr o adloniant yn y dydd, ac o gwsg yn y nos. Ond nid ydym yn cofio ei fod yn ei anerchiadau yn achwyn dim ar ei galedwaith. Ystyriai ei bod yn fraint i gael gweithio dros Dduw a llesoli ei gyd-ddynion. Ar ddiwedd y flwyddyn 1841 dywedai, "Trwy dirion drugaredd yr Arglwydd, wele yr ail gyfrol o'r Cenhadwr Americanaidd wedi ei gorphen. Boed diolch a mawl i'w enw daionus am y cymorth a roddwyd yn y gwaith, ac am y llwyddiant a'i dilynodd. Awn yn mlaen eto yn siriol a chalonog, gan ymddiried yn y fraich a'n cynaliodd hyd yma.' Dengys y llinellau yna yr ysbryd oedd yn ei lywodraethu, a pha le yr oedd cuddiad ei gryfder yn y cyflawniad o'i waith caled.


2. Ei fod yn ysgrifenydd eglur a naturiol. Y mae rhwyddineb a naturioldeb yn prydferthu pob erthygl a ddaeth o dan ei law. Mae ei ysgrifau yn hynod o lathraidd a llyfn, ac yn hyfryd i'w darllen. Yr oedd yn ieithydd medrus a chywir, a'i eirweddiad yn rymus, ac eto heb fod yn arw. Cadwodd ganol y ffordd yn dda rhwng ieithwedd sych a thlawd a gorffrwyth-