Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

londeb chwyddieithiol. Nid oedd yn defnyddio iaith mor flodeuog ac ansoddeiriol ag S. R., nac yn gorfanylu mor aml-eiriog a chwmpasog a D. Morgans, Llanfyllin. Dengys ei ysgrifau lawer o drefnusrwydd. Dosranai ei faterion yn naturiol a rheolaidd. Nid oedd ei feddyliau wedi eu hamdoi mewn niwl a thywyllwch, ond yr oeddynt yn berffaith eglur i bawb darllenwyr o gyrhaeddiadau cyffredin. Gan ei fod yn feddyliwr clir a goleu ei hun, yr oedd yn medru gwneyd ei feddwl yn glir a goleu i eraill. Pe cymerai llenor at un o'i ysgrifau i geisio gosod ei meddyliau allan yn fwy trefnus, mewn geiriau mwy priodol, ac mewn ffordd ferach a thlysach, buan y canfyddai ei fod wedi ymosod ar dasg pur anhawdd ei gyflawni. Yr oedd ei arddull yn syml, pur a chlasurol, ac nid yn flodeuog a chwyddedig. Os nad oedd yn berchen ar athrylith a hyawdledd fflamiol y Llywydd Samuel Davies a Dr. Chalmers, neu ddirnadaeth ymresymiadol graffus a gorddwfn Jonathan Edwards, Dr. Emmonds a Dr. N. W. Taylor, eto yr oedd yn ddyn rhyfedd o gyflawn, yn berchen meddwl wedi ei fantoli yn dda, ac yr oedd ynddo gydgyfarfyddiad llawer o gymwysderau mawrion, y rhai a osodid ar waith ganddo gyda chysondeb, purdeb a diwydrwydd diarbed. Nid rhaiadr y Niagara yn "synu, pensyfrdanu dyn," oedd ei athrylith, ond afon y Mississippi, yn araf deithio mewn mawredd tawel tua'r cefnfor.

3. Ei fod yn gall a boneddigaidd. Dywedai Gruffydd Risiart (brawd S. R. a J. R.) am dano: "Y mae golygydd y Cenhadwr yn meddu ar radd werthfawr o gallineb—cymwysder hanfodol i olygydd cylchgrawn * * * * Yr oeddwn yn arfer meddwl mai Har-