Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ris, Abertawe, oedd y callaf yn ei oes am drafod 'gohebwyr;' medrai droi yr hen J. R., Llanbrynmair, oddeutu pen ei fys. Ond nid pell ar ei ol ydyw y patriarch o Remsen yn y dawn tra gwerthfawr hwn.' Pe dywedasai fod Dr. Everett yn llawn mor uchel a Harris mewn callineb, credwn y buasai yn llygad ei le. Yn ei holl ymdrafodaeth â gohebwyr a llenorion, ni chlywsom am neb erioed wedi ei gyhuddo o anfoneddigeiddrwydd. Bu yn gyfyng arno rai gweithiau yn amser dadleuon poethion a therfysgoedd ac ymraniadau eglwysig, pan fyddai pob ochr yn awyddus i droi y Cenhadwr yn beiriant rhyfel i ymladd drostynt hwy; ond trwy ei fwyneidd-dra a'i gallineb, byddai yn llwyddo fynychaf i dawelu y pleidiau a'u cadw rhag tramgwyddo wrth y golygydd a'r cyhoeddiad. Ond eto nid bob amser, oblegid er ei fod yn foneddigaidd, yr oedd yn benderfynol i wneyd yr hyn a farnai yn uniawn; a chlywsom am rai wedi digio yn anfaddeuol wrtho ef a'r Cenhadwr, pan ddylasent yn hytrach fod wedi digio wrthynt eu hunain. Yn ei gyfarchiad i'r darllenwyr yn niwedd 1842, y mae yn dyweyd: "Canfyddir gan ein darllenwyr fod mwy o 'Ddadleuaeth' wedi cael ei ddwyn yn mlaen yn y Cenhadwr y flwyddyn hon nag o'r blaen, a thebygu y mae yn awr na bydd dim llai eto, o leiaf am beth amser i ddyfod. Ond tra y byddo ymosodiad yn cael ei wneyd ar yr hyn a ystyriym yn wirionedd safadwy a thragywyddol y Beibl, nis gallwn lai na dymuno fod ymdrechiadau ffyddlawn yn cael eu gwneyd i amddiffyn y gwirionedd, a'i egluro yn ei symledd, ei ardderchawgrwydd, a'i ddwyfolder, pwy bynag a'i gwrthwynebo, Ond yr ydym yn taer erfyn ar fod hyn yn cael ei wneyd