Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn ysbryd addfwyn. Oni wna ein gohebwyr hynaws wrando ar y gyngor yn hyn, a gwylio rhag ysbryd a geiriau anfwyn ac annhirion? Ni wna geiriau felly ddim lles i'r gwirionedd—ni effeithiant er gogoneddu Duw—ac ni chânt yn sicr un effaith dda ar y gwrthwynebydd. O frodyr! ynte, byddwch dirion, tra yn amddiffyn gwirioneddau gogoneddus ein bendigedig Iesu." Dyna eiriau teilwng o ail—argraffiad er mwyn i ddadleuwyr y dyddiau presenol eu gweled.

Yr oedd yn well gan Dr. Everett ddyoddef cam oddiar law enwadau eraill na dwyn yn mlaen ryfel enwadol. Yn 1842 cyhoeddwyd llyfryn yn ceisio llechwraidd drywanu yr enwad Cynulleidfaol, fel un yn ngafael "yr egwyddor o hunan-fawredd, yn gwrthwynebu penarglwyddiaeth gras Duw yn nhrefn cadwedigaeth pechadur." Awgrymid ynddo fod golygiadau yr enwad yn heresi, a'i weinidogion yn offerynau Satan, yn cyflwyno i'r bobl wenwyn cyfeiliornadau. Daeth rhai o'n gweinidogion allan i amddiffyn eu hunain, fel yr oedd yn deg iddynt wneyd. Pan welwyd hyny codwyd llef am "ysbryd erledigaethus" y y Cenhadwr. Rhwydd iawn fuasai i Dr. Everett ddangos pwy oedd wedi dechreu ymosod, wedi arfer yr iaith fwyaf ddirmygus, a dangos fwyaf o bigotry, ond fel hyn y dewisodd ef siaråd. "Mae ein brawd yn camfeddwl am danom pan yn ein cyhuddo ar amlen y diweddaf o ysbryd erledigaethus.' Nid ydym yn teimlo awydd erlid, frawd, ond i'r gwrthwyneb yn hollol, ein dymuniad yw cyd—lafurio yn ngwinllan ein Harglwydd, ac ymosod, nid ar ein gilydd, ond ar y gelyn cyffredinol yn mhob dull a ffurf y ceir ef yn mhlith dynion. Ac os bydd i ohebwyr y Cenhadwr, mewn