Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hunan-amddiffyniad neu amddiffyniad o'r hyn a ystyriont yn wirionedd o bwys, gyffwrdd dim â gweithiau a ymddangosant yn y ——— neu eiddo y golygydd, ni chaiff dim ymdrech o'n tu ni fod yn eisiau (er nad ystyriym ein hunain yn gyfrifol am ysgrifau ein gohebwyr), idd eu henill i fod yn dirion wrth bawb—i beidio dwyn cyhuddiadau neu achwyniadau disail yn erbyn neb, ond cofio y rheol euraidd i wneyd i ereill fel yr ewyllysiem iddynt wneyd i ninau.' Ond drosom ein hunain, gwell genym fil o weithiau fydd dadleu dros y caethwas, dros ddirwest, diwygiadau crefyddol ac achosion o'r fath, na dadleu â'n gilydd am bynciau nad ydym, wedi y cyfan, yn mhell iawn o fod o'r un feddwl yn mherthynas iddynt; a hyderym y bydd ein gohebwyr yn lled gyffredinol o'r un feddwl a ninau." Dyna ffordd dirion a boneddigaidd i ateb camgyhuddiad. Dichon fod rhai yn meddwl y dylasai ei sêl fod yn fwy enwadol, ond credwn na fu yr enwad ddim ar golled o herwydd boneddigeiddrwydd Dr. Everett. Credwn ei fod yn gystal duwinydd a Jones, Dolgellau, ond nid oedd mor hoff o ddadleuon duwinyddol; a chredwn ei fod yn gystal diwygiwr a Rees, Llanelli, ond nid oedd yn hoffi ergydio ei wrthwynebwyr mor drwm. Yr oedd yn hynod o dyner a didramgwydd wrth geisio dysgu y rhai gwrthwynebus, a'i eiriau yn diferu mor dirion ag ambell gawod faethlon yn mis Mai.

Gwelsom awgrymiad cecrus un tro fod ei foneddigeiddrwydd yn codi oddiar ofn a llwfrdra, ond cabldraeth resynus ydoedd. Cafwyd profion cedyrn lawer gwaith y medrai sefyll mor ddiysgog a'r graig dros yr hyn a farnai yn iawn, gan nad pwy fyddai yn digio. Er