Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

engraifft, un tro anfonodd pregethwr o Ohio ysgrif ato ar ryw ffrwgwd eglwysig, gyda gorchymyn i atal rhifynau chwech o dderbynwyr os na chyhoeddid hi. Hysbysodd Mr. Everett ef yn y modd mwyaf tawel a digyffro, nad oedd ei ysgrif o ran ysbryd a iaith yn deilwng o'i chyhoeddi, ac yr atelid y rhifynau oddiwrth y chwe' derbynydd o hyny allan, os na anfonent archebion adnewyddol am danynt.

4. Ei fod fel ysgrifenydd yn nodedig o bleidiol i ddyngarwch a rhyddfrydiaeth. Ni fu erioed well cyfaill i freiniau dyn ac egwyddorion rhyddid. Gellid meddwl ei fod wedi ymdyngedu i frwydro yn erbyn pob gormes, anghyfiawnder a chaethiwed, fel yr oedd Hannibal wedi ymdyngedu yn erbyn y Rhufeiniaid. Gellir dywedyd yn ddibetrus mai efe oedd prif arwr y blaid wrthgaethiwol yn mhlith Cymry America. Pan yr oedd llawer o weinidogion y wlad, athrawon colegau a golygwyr y cyfnodolion yn chwareu rhan Meroz, yr oedd Dr. Everett fel Naphtali ar uchel—fanau y maes mewn ymdrechfa angeuol â'r gelyn caethiwed, y gelyn erchyllaf a welodd America erioed. Pan fyddai rhai o'n golygyddion Cymreig yn achub cyfle yn awr ac yn y man i dywallt dirmyg ar yr Abolitioniaid, neu roddi hergwd gyfrwys i'r mudiad gwrthgaethiwol, yr oedd yntau yn unplyg a dihoced, fel prophwyd Duw, yn dyrchafu ei lais yn uchel, croyw a phenderfynol yn erbyn y gelyn mawr. Ysgrifenodd lawer yn onest a chydwybodol, a fel dros Dduw, yn ei erbyn. Yn y llythyr cyntaf gawsom oddiwrtho, draw yn Nghymru, crybwyllai am gaethiwed fel y prif elyn i frwydro ag ef yn America, a dangosai awydd i gasglu help o bob man i ymosod arno, ac i lenwi ereill â'r cariad at