Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ryddid oedd yn llosgi yn ei fynwes ei hun. Dywedai un tro: "Yn mhlith amrywiol wrthddrychau a ymddangosant i'n meddwl yn werthfawr a theilwng, nid y lleiaf yw achos y caethwas. Credym mai yr ymdrech a wneir yn yr oes bresenol i ddileu y gaeth fasnach a'r caethwasanaeth o'r byd yw diwygiad penaf yr oes a'r gwledydd, ac yr edrychir yn ol at y blynyddau hyn yn mhen ugeiniau i ddyfod, ïe, yn mhen canrifau i ddyfod, fel blynyddau deheulaw y Goruchaf,' o herwydd yr ymdrechion a wneir, a'r frwydr foesol y gweithredir ynddi i gyrhaedd y gwrthddrych aenwyd, ac i godi y dosparth yma o ddynion i sefyllfa wareiddiedig a phriodol i weini iddynt gyfryngau a moddion eu tragwyddol iachawdwriaeth."

Nid allodd gau—wladgarwch na brwdfrydedd rhyfelgar yn amser rhyfel Mexico ei ddallu rhag canfod ei wir amcan fel mesur pleidiol i gaethiwed, a bu yn wrthwynebydd cyson iddo. Yn amser dinystriad cyfaddawd Missouri, ac yn amser brwydrau rhyddid yn Kansas, yr oedd ysgrifell golygydd y Cenhadwr ar waith yn ddiwyd a diarbed bob mis yn parotoi colofnau helaeth o ddarlleniad nerthol a chynhyrfus ar sefyllfa pethau; ac yn holl ddyddiau meithion a thywyll y gwrthryfel ni laesodd am foment, ni ddiffygiodd ei ffydd, nid ymollyngodd ei ysbryd, ond daliodd yn wrol yn rhes flaenaf y gwrthgaethiwyr nes gweled caethiwed yn trengu. Gwnaeth wasanaeth anmhrisiadwy i achos rhyddid yn ystod yr ymdrechfa wrthgaethiwol.

Bu yn bleidiwr ffyddlawn i ddirwest, ac yn wrthwynebydd anghymodlawn i bob blys ac anghymedroldeb. Cafodd achos addysg a'r holl gymdeithasau