Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cristionogol gymorth ei ysgrifell weithgar a galluog. Yr oedd yn ddyn o feddwl eang ac o ysbryd cyhoeddus, a'i gyd-deimlad yn cyrhaedd can belled a therfynau eithaf y gymdeithas ddynol, a gwnelai ei oreu i feithrin yr un ysbryd yn mhawb o'i ddarllenwyr.

5. Ei fod yn olygydd gonest ac egwyddorol. Yr oedd yn ddifrifol ei ysbryd, gonest ei amcanion, ac yn egwyddorol yn ei holl gyflawniadau. Beth ond egwyddor gref a di—droi—yn—ol fuasai yn gwneyd un mor addfwyn a didramgwydd yn brif arwr yr achos gwrthgaethiwol? Pleidiodd achos y caeth was pan na ddygai hyny iddo barch, cymeradwyacth na chyfoeth; a glynodd wrth y gwaith pan oedd cyfeillion yn oeri ac yn cefnu, a'r gelynion yn ffyrnigo ac yn ymosod; ond ystyriai ei fod ar lwybr ei ddyledswydd yn gweithio dros Dduw, ac oblegid hyny nis gallai dim ei droi oddiwrth ei amcan. Egwyddor rymus yn gorseddu ynei enaid yn unig allasai beri i un mor heddychol ei ysbryd, frwydro mor wronaidd dros y rhai gorthrymedig. Yr oedd yn egwyddorol yn ei bleidgarwch i ryddid barn. Er yn un o'r rhai mwyaf tyn dros olygiadau efengylaidd, nid oedd ynddo ddim o'r culni sy'n perthyn i rai o'r cyfryw bobl. Er ei fod o ysbryd Puritanaidd, yr oedd yn mhell o fod yn bigot. Er yn rhybuddiwr difrifol fel Jeremiah, yr oedd yn apostol cariad fel loan y dysgybl anwyl. Yr oedd yn wrthwynebydd egwyddorol i bob drwg, yn foesol neu yn wladol. Meddai lygaid craff i ganfod fel yr oedd amgylchiadau dyfodol yn taflu eu cysgod o'u blaen. Yn ei anerchiad ddechreu y flwyddyn 1865, llawenychai wrth weled fod tranc y gwrthryfel a thranc caethiwed yn ymyl, ond rhagwelai ddyfodiad i mewn dymor o