Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

speculation gwyllt, a llwyddiant bydol twyllodrus, a rhybuddiai ei ddarllenwyr yn garedig yn erbyn "ysbryd ymgyrhaedd yn ormodol at bethau y bywyd presenol."

6. Ei fod yn llenor o chwaeth bur a diwylliedig, ac yn amcanu at y defnyddioldeb uchelaf. Profir purdeb ei chwaeth nid yn unig gan yr holl erthyglau a ysgrifenodd, ond hefyd gan gymeriad ei ddetholion o weith iau ereill. Nid y difyr, yr ysmala, a'r ysgafn oedd y pethau yr ymhyfrydai ynddynt, ond y pethau a dueddent i feithrin dwysder, difrifoldeb a phurdeb; ond eto yr oedd yn ddigon pell oddiwrth ddefnyddio llymder Phariseaidd, neu argymell gerwindeb mynachaidd. Nid oedd fel rhai diwygwyr yn llymdost a phigog, ond anogai a darbwyllai yn fwynaidd a thyner. Gofalai fwy yn ei gyfansoddiadau am burdeb meddwl nag am arddull gaboledig, ac yr oedd gwneuthur lles moesol i'w ddarllenwyr yn fwy pwysig yn ei olwg na eu swyno â dillynder ymadrodd. Ar yr un pryd medrai ysgrifenu yn ddestlus a thlws, a gellid codi llawer o engreifftiau i brofi hyny.

Ni chafodd neb erioed le i feddwl mai ei amcan oedd dangos ei hun, na ei fod yn ysgrifenu er mwyn hyny, ond deallai pawb mai ei amcan oedd llesoli ereill. Nid ysgrifenai i geisio synu ei ddarllenwyr na'u dyrysu, ond i'w haddysgu, eu darbwyllo, a'u henill at yr hyn sydd dda a chywir. Cadwai lwyddiant crefydd ac achubiaeth eneidiau yn nôd gwastadol o'i flaen. Deallwn ei fod yn ei ddyddiau boreuol yn hoff o olrheiniadau duwinyddol, a'i fod yn hyddysg yn nadleuon yr Hen Ysgol, sef Uchel Galfiniaeth, a'r Ysgol Newydd, sef Calfiniaeth Gymedrol; ac yn med-