Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ru cydmaru eu golygiadau yn deg a beirniadol; ond yn y rhan olaf o'i oes yr oedd yn fwy hoff o'r diwygiadol a'r ymarferol. Cefnogi dysg a gwybodaeth, pleidio rhyddid ac iawnderau dynol, a llafurio dros adfywiadau crefyddol ac achubiaeth eneidiau, oedd ei hoff waith yn ei flynyddau olaf.

Yr oedd arogl un yn byw yn nirgelwch y Goruchaf ar ei ysgrifeniadau. Perthynai iddynt eneiniad nefol, heb ddim nodau ffug na rhith sancteiddrwydd, ond y didwyllder a'r gonestrwydd puraf. Gwr Duw ydoedd, ac fel y cyfryw bu'n tywallt allan ei enaid ar du dalenau y Cenhadur am feithion flynyddau, ac nid ydym yn meddwl y buasai ar ddydd ei farwolaeth yn ewyllysio dileu yr un linell a ysgrifenodd yn ystod ei olygiaeth. Cysegrodd ei dalent lenyddol i'w Feistr nefol, ac yr oedd pob brawddeg a ysgrifenodd yn profi ei fod yn un puro galon, yn un o ostyngedig ffyddloniaid Iesu—bod ei ysgrifell yn ysgrifell plentyn Duw, a bod awyddfryd penaf ei feddwl am ddwyn yr holl fyd i garu a gwasanaethu yr Arglwydd.

PENNOD VI.

Dr. Everett fel Diwygiwr.

GAN Y PARCH. E. DAVIES, WATERVILLE, N. Y.

Swyddogaeth Diwygwyr yn y byd yw effeithio cyfnewidiad ynddo er gwell. Ac yn ein byd dirywiedig ni mae eu gwasanaeth o'r gwerth mwyaf; oblegid diwygwyr yn arbenig ydynt "halen y ddaear," er cadw cymdeithas rhag cwbl lygru a phydru mewn pechod a