Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drygioni. Ac nid hyny yn unig, ond hwynt—hwy hefyd ydynt "oleuni y byd," i'w arwain a'i ddyrchafu i burdeb a rhinwedd. Anfynych er hyny y mae y byd wedi iawn adnabod a phriodol brisio y cyfryw rai, hyd nes iddynt fyned ymaith o hono. Y mae gwir ddiwygwyr yn byw o flaen eu hoes, ac am hyny, o'r dechreuad, maent wedi cael eu cymeryd fel gelynion cymdeithas, yn peryglu ei heddwch ac yn atal ei llwyddiant. Nid rhyfedd gan hyny iddynt gael eu dirmygu a'u gwaradwyddo erioed, a'u herlid a'u lladd hefyd yn fynych.

Y mae, fodd bynag, yn ol cyfraith taledigaeth (law of compensation), fod adgyfodiad gogoneddus yn aros pob gwir ddiwygiwr―nid yn yr adgyfodiad cyffredinol "y dydd diweddaf," eithr mewn amser, yn y byd presenol. Ac fel rheol hefyd, eu gwobr mawr a ddaw yn fuan ; ïe, "a frysia ac nid oeda." Mae yn eithaf gwir fod eithriadau i'r rheol, ac fod enwau rhai diwygwyr enwog wedi eu gadael i orwedd dan orchudd o ddirmyg a gwarth am oesoedd a chanrifoedd; ond yn aml daw eu cyfiawnhad a'u mawrygiad gan ddynion, mewn byr amser, Yn fynych, lle bu y tadau yn eu llabyddio ac yn tywallt eu gwaed, bu y plant yn llawn mor aiddgar i addurno eu beddau, ac anrhydeddu eu coffadwriaeth ! Yn wir mae engreifftiau o ddiwygwyr fuont am dymor yn wrthddrychau pob gwaradwydd ac anmharch, ac enwau y rhai a ystyrid fel yn arwyddol o bob peth gwrthwynebus ac atgas, wedi cael eu codi i gymeradwyaeth a phoblogrwydd mawr cyn eu marw, megys y diweddar Wm. Lloyd Garrison. Dibyna hyn yn fwy, fodd bynag, ar lwyddiant yr achosion a bleidiant, nag ar ddim gwir gyfnewidiad yn egwyddor ac ansawdd