Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbryd y byd. Nid oes dim mor llwyddianus a llwyddiant. Nid oedd Dr. Everett, fel diwygiwr, yn eithriad i'r rheol gyffredin, ac ni ddiangodd chwaith yn gwbl rhag tynged y cyfryw rai, am dymor; eto llawn gyfiawnhawyd ef, a chanmolodd ei hun "wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw," flynyddoedd cyn ei farw.

Wrth son am Dr. Everett yn y cymeriad o Ddiwygiwr, dichon nad anmhriodol fyddai crybwyll, ei fod yn meddu ar gydgyfarfyddiad hapus o lawer o brif nodweddion y gwir ddiwygiwr. Ni chaniata ein gofod i ni ond yn unig grybwyll rhai o honynt; megys, cymeriad pur a diargyhoedd, gostyngeiddrwydd diymhongar, cymedroldeb mewn golygiadau ac iaith, boneddigeiddrwydd diffuant mewn ymddygiad, llarieidd—dra ac addfwynder ysbryd efengylaidd, teyrngarwch trwyadl i'r gwirionedd a phenderfyniad di—blygu i sefyll drosto, bydded y canlyniadau y peth y byddent; ac uwchlaw y cyfan, ffydd ddiysgog yn Nuw a'i air, a chrefyddolrwydd a duwiolfrydedd amlwg ei ysbryd gyda phob peth. Da fuasai genym allu ymhelaethu ychydig ar y rhagoriaethau amlwg hyn yn nghymeriad Dr. Everett. Ond diameu y gwneir hyny gan rywun mwy cymwys, mewn rhan arall o'r Cofiant. Ni chaniata terfynau gosodedig ein hysgrif hon, ychwaith, i ni sylwi ar ragoriaethau nodedig Dr. Everett fel duwinydd a phregethwr. Disgyna y gorchwyl hwnw, hyderwn, i ran rhywun mwy galluog i wneuthur cyfiawnder ag ef Goddefer i ni, fodd bynag, ddweyd mai un o'i ragoriaethau mwyaf amlwg fel y cyfryw, oedd ei fod yn drwyadl ddiwygiwr.

Perthynai rhagoriaethau arbenig iawn i Dr. Everett