Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel pregethwr a duwinydd, a'i gosodent yn ddiamheuol yn nosbarth blaenaf pregethwyr ei oes. Cawsai addysg dda, a meddai ar wybodaeth gyflawn, a golygiadau eang am drefn iachawdwriaeth yr efengyl. Yn mysg ei hynodion mwyaf arbenig gellid crybwyll byrdra, uniongyrchedd, eglurder, trefn, cyfanrwydd, cysonedd, a difrifoldeb. Ni byddai byth yn faith gyda dim. Ni wrandawsom ar neb erioed allai roddi goleuni mwy boddlonol ar fater, mewn ychydig eiriau, nag ef. Meddai allu rhagorol i daro yr hoel bob amser yn gymwys ar ei phen. Un mater yn gyffredin fyddai ganddo yn ei bregeth. Byddai ganddo raniadau braidd bob amser, eithr byddent oll yn naturiol ac yn gwasanaethu i gyrhaedd rhyw un amcan penodol. Traethai ar bob gwirionedd yn ei gysylltiad priodol ac yn ei berthynas a'i gysondeb â gwirioneddau eraill y gair Dwyfol, ac ni byddai neb, ar ol gwrando arno, mewn unrhyw betrusder yn nghylch yr hyn a amcanai ddweyd. Yr oedd efe gan hyny yn mhriodol ystyr y gair yn bregethwr a duwinydd gwir fawr. Llais gwanaidd oedd ganddo, eto yr oedd yn glir a soniarus. Ni byddai yn canu nac yn chantio, fel llawer o bregethwyr Cymreig ei amser; yr oedd yn fater rhy ddifrifol i hyny gydag ef. Meddai allu arbenig i wasgu y gwirionedd yn ddifrifol a phwysig at feddyliau a chalonau ei wrandawyr; ac yr oedd yn llawn o ddifrifoldeb gyda phob peth. Pan y caffai hwyl dda, byddai bob amser mewn dwfn gydymdeimlad â'r gwirionedd a draethai. Tueddai ei bob peth ef i adael ystyriaeth o barch i Dduw a'i wirionedd yn oruchaf yn meddwl a chalon pob un o'i wrandawyr. Clywsom hen bobl yn Nghymru yn adrodd, a dagrau ar eu gruddiau, am ei bregethau eff-