Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eithiol a thoddedig iawn yno, pan oedd yn fachgen ieuanc. Cofia lluoedd yn America hefyd am ei apeliadau syml-ddifrifol, dwys-erfyniol a theimladwy iawn. Pe tynid darlun cywir o Dr. Everett fel pregethwr, tynid ef mewn agwedd ddifrif-apeliadol, ac ni byddai y darlun yn berffaith heb fod y dagrau yn treiglo dros ei ruddiau. Bydd ei ymddangosiad syml-ddifrifol, ei lais gwanaidd, ond eglur a thoddedig iawn, ei ddagrau llifeiriol, a'i edrychiad difrif-erfyniol pan lefai, "Arfau i lawr," "Deuwch at Iesu," "Cymoder chwi a Duw," &c., yn aros yn fyw yn meddyliau llaweroedd a'i clywsant, yn y byd a ddaw, pan na bydd amser mwyach!

Rhoddai Dr. Everett bwys mawr ar lafurio i ddeall Cristionogaeth fel cyfundrefn gyson yn ei gwahanol gysylltiadau, ac ar bregethu ei gwirioneddau yn eu perthynas a'u cydbwysedd priodol â'u gilydd. Mynych y clywsom ef yn adrodd gyda chymeradwyaeth, sylw yr anfarwol Williams o'r Wern ar hyn. Ac yr oedd efe ei hunan hefyd yn rhagori yn hyn. Yr oedd ei olygiadau ar drefn yr efengyl yn gyflawn a chyson. Ni byddai byth yn cario un gwirionedd i filwrio yn erbyn gwirionedd arall, fel y clywsom rai yn gwneuthur. Cof genym glywed un yn pregethu unwaith ar yr Anmhosiblrwydd i neb ddyfod at Grist, nes peri i ni deimlo, os felly yr oedd, nad oeddym i'n beio am beidio dyfod ato. Nos dranoeth drachefn pregethai ar Y ddyledswydd o gredu yn Nghrist; ac meddai ar ei bregeth, "Pa beth yw credu? Wel, gorwedd; dim byd ond gorwedd," ac ychwanegai, "Ni welais neb erioed yn rhy wan i orwedd." Yr oedd yn y sylw hwn, yn sicr, fwy o gymelliad er ein hanog i gredu;