Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond y drwg oedd fod ei bregeth hon a'r un y nos o'r blaen yn milwrio yn hollol yn erbyn eu gilydd, yn ein tyb ni, ac felly yn effeithiol i ladd dylanwad y ddwy ar ein meddwl. Clywsom un arall yn pregethu ar y geiriau, "Deuwch ataf fi bawb sydd yn flinderog a llwythog," &c. Ei sylw cyntaf oedd; "Yr anogaethau, neu'r cymelliadau cryfion oedd i bawb ddyfod at Iesu Grist." Ond ei ail sylw ydoedd, "Yr anmhosiblrwydd i neb byth ddyfod at Iesu Grist, heb weithrediadau neillduol ac anorchfygol yr Ysbryd Glan ar eu meddyliau." Yr oedd, fe ddichon, wirionedd yn mhob un o'r ddau sylw, ac yr oeddynt yn gyson â'u gilydd o'u deall yn iawn. Eithr gwnaeth y brawd hwynt i ymddangos y tro hwnw, yn ddau yn milwrio yn hollol yn erbyn eu gilydd i olwg y gwrandawyr, ac felly collwyd yn gwbl ddylanwad daionus ei bregeth. Nid felly y pregethai Dr. Everett. Yn fynych iawn, yn wir, ei hoff ddull ef o bregethu ydoedd cadw rhyw un mater neu ddrychfeddwl o flaen ei wrandawyr. Byddai ganddo braidd bob amser raniadau yn ei bregeth, eithr byddai pob rhaniad a sylw yn gwasanaethu naill ai i egluro, profi, neu gymwyso yr un mater hwnw at feddyliau a chalonau ei wrandawyr. Byddai ei brif apeliad bob amser at y gydwybod, eithr nid ar draul esgeuluso y deall. Ni wrandawsom arno erioed heb gael rhyw oleuni newydd, a rhyw addysg ac adeiladaeth fuddiol. Nid oedd yn ddiystyr o'r teimlad wrth bregethu, ond ni arosai gyda'r teimlad, fel y byddai llawer o'r hen bregethwyr Cymreig gynt, ac fel y mae yn ofnus y gwna llawer eto. Yn wir, os goddefir i ni yn ostyngedig draethu ein barn, dyma ydoedd prif