Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiffyg pregethu Cymru yn y flwyddyn 1866, yn gystal hefyd a phregethu Cymreig America.

Cawsom y fraint yn y flwyddyn grybwylledig o wrando ar oddeutu deugain o wahanol bregethwyr goreu yr Annibynwyr yn Nghymru; a chlywsom rai o honynt amrywiol weithiau, Addefwn yn rhwydd i ni yn ystod ein hymweliad â'r Hen Wlad, glywed llawer o bregethau dysgedig, doniol ac adeiladol iawn. Eithr yr argraff a adawyd ar ein meddwl gan gyffredinolrwydd y pregethau a glywsom yno oedd, fod pregethu Cymru, fel rheol, yn tueddu i aros yn ormodol gyda'r teimlad, ac yn ymwneyd yn rhy ychydig â deall, ac yn enwedig â chydwybod y gwrandawyr. Gwir y gall nad oedd y fantais a gawsom ni yn ein galluogi i ffurfio barn gywir am y weinidogaeth Gymreig yn gyffredinol. Dichon hefyd fod y pregethau a glywsom, yn gystal a'r pregethwyr, yn eithriadau, gan mai mewn Cymanfaoedd a chyfarfodydd mawr yn unig y cawsom y fraint o'u clywed. A phosibl fod mwy o ymdrech yn cael ei wneuthur y prydiau hyny i gael yr hyn a elwir yn gyffredin yn "hwyl," nag sydd yn y weinidogaeth feunyddiol gartref. Sicr yw fod beirniadaethau y gwrandawyr yn rhy fynych yn tueddu i beri hyny. Clywsom lawer gwaith yn Nghymru mai math o ymrysonfa pregethu oedd y Gymanfa a'r cyfarfod mawr; ac aml y clywsom feirniadaethau ar ol y pregethau ynddynt, oeddynt yn gwbl gyson â'r golygiad hwn. Wrth ymddyddan am y gymanfa ddiweddaf, clywsom rai yn dywedyd, " Pregethodd Mr. B. yn dda iawn, ond Mr. R. aeth a hi; efe a gariodd y maen i'r wal arnynt i gyd yno." Bob amser bron bernid y pregethwr a'i bregeth wrth yr effaith a gynyrchai, a'r