Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dylanwad a gaffai ar y pryd ar deimladau y gynulleidfa. Os llwyddai rhywun gyda'i bregeth i wneuthur rhyw gynhwrf yn y gwersyll, ac yn enwedig os Ilwyddai i yru rhyw hen wreigan i waeddi yno, efe a fyddai y dyn y tro hwnw. Ac odid fawr na phenderfynid ar unwaith gan rywrai, fod raid i hwnw gael gwahoddiad i'r Gymanfa nesaf. A gall fod hyny, meddwn, yn peri fod temtasiwn i'r pregethwr lafurio am bregethau, erbyn yr adegau hyny, a fyddent yn ymwneyd â'r teimlad, yn fwy nag ar amgylchiadau cyffredin. Eto nis gallwn ni farnu ond oddiwrth yr hyn a glywsom, a'n teimlad ni ar ol talu ymweliad â Chymru oedd, y dylasai y gweinidogion yno ymwneyd yn eu pregethau, nid yn llai â'r teimlad, fe allai, ond yn fwy â'r deall ac â'r gydwybod. Anhawdd fyddai i ni grybwyll am un o fewn cylch ein hadnabyddiaeth a fyddai yn esiampl well o'r fath bregethwr ag y mae ein cenedl mewn mawr angen am dano, na Dr. Everett. Ni byddai ef, fel y crybwyllasom, yn ddiystyr o'r teimlad, ond llafuriai bob amser er goleuo y deall, ac yn enwedig er cyrhaedd y gydwybod mewn argyhoeddiad. Ei amcan gwastadol oedd effeithio diwygiad yn ei wrandawyr, ac felly wneuthur daioni parhaol iddynt.

Eithr fel y crybwyllasom eisoes, â Dr. Everett fel diwygiwr, y mae a fynom yn yr ysgrif hon. Ac fel diwygiwr, megys y nodasom, yr oedd yn rhagori yn fwyaf amlwg fel duwinydd a phregethwr. Dechreuodd Dr. Everett bregethu pan oedd Uchel—Galfiniaeth yn dra chymeradwy gan luoedd o Gymry, mewn canlyniad i bregethiad y fath syniadau gan luaws o bregethwyr blaenaf yr amser hwnw. A daeth ef allan yn