Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mysg y rhai blaenaf yn ei amser i wrthwynebu yr hen syniadau hyny, ac i bleidio gwir athrawiaeth yr efengyl, yn neillduol yn ei graslonrwydd a'i chyffredinolrwydd ar gyfer angen dynoliaeth syrthiedig, yn gystal hefyd a'i haddasrwydd i gyfarfod sefyllfa ac angen pob pechadur colledig, fel y mae, yn ei bechod a'i drueni. "Newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl," oedd yr efengyl yn ei olwg ef. Cynygiad grasol o gymod ydoedd, ac ar delerau cyrhaeddadwy i bob dyn byw. Yr oedd ei enaid ef yn ymgroesi rhag y cyfyngiad a wneid gan rai dynion ar ras anfeidrol y Duw mawr, i ryw nifer penodol o bechaduriaid. Ystyriai y golygiad hwnw yn ddirmyg o'r mwyaf ar ddarpariaeth gras, yn gystal ag ar y gras a ddarparodd. Ni phetrusai chwaith daflu yr holl gyfrifoldeb am wrthodiad y drefn, at ddrws y pechadur ei hunan. Ystyriai fod y gweision hyny a gyhoeddent genadwri amwys ar y mater hwn, yn cymeryd arnynt eu hunain gyfrifoldeb pwysig iawn. Cofus iawn genym y difrifoldeb a'r egni a ddangosai pan yn gwrthwynebu y fath ymddygiad, wrth bregethu ar y geiriau, "Dos allan i'r prif—ffyrdd a'r caeau, a chymell (compel) hwynt i ddy. fod i mewn, fel y llanwer fy nhy."

Fel ysgrifenydd hefyd, a golygydd y Cenhadwr, cawn ef yn llafurio yn yr un cyfeiriad. Yn ei raggyfarchiad i'r gyfrol gyntaf o'r Cenhadwr (1840), dywed: "Ein hamcan syml ydoedd rhoddi allan bethau buddiol ar wahanol gangenau gwybodaeth, a hyny mewn ysbryd tyner ac addfwyn; a thrwy gymorth oddi uchod, hyny gaiff fod ein hamcan eto. I ba raddau y llwyddasom yn hyn, bydd i'r cyhoedd farnu. Dysgwyliwyd efallai, mai i ryfel y daethom allan; ond