Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid hyny ydoedd, nac yw, ein dyben. Da a hyfryd genym gyd-lafurio â brodyr yn yr Arglwydd yn erbyn pob annuwioldeb ac anfoesoldeb o fewn y tir; a gobeithio yr ydym yn fawr allu gwneyd rhyw ran gydag eraill tuag at feithrin ysbryd cariad a thangnefedd yn mhlith Israel Duw. Ein harwyddair gaiff fod o hyd, 'Heddwch, heddwch, i bell ac i agos.' Ymdrechwn egluro yn ffyddlawn, hyd y mae ynom, beth yw egwyddorion y Beibl ar amrywiol gangenau yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb, ac yn neillduol ar ras Duw a chyfrifoliaeth dyn. Ond ceisiwn wneyd hyny mewn addfwynder, gan ein bod yn cwbl gredu mai felly y mynai ein Meistr mawr i ni wneyd; a hyderwn y bydd addfwynder a llarieidd-dra a thynerwch yr efengyl (fel yr olew ar ben Aaron yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef) yn dynodi ysgrifau ein gohebwyr yn gyffredinol."

Ac yn un o'r rhifynau cyntaf o'r cyhoeddiad newydd y pryd hwnw, cawn ganddo erthygl ar "Ddyn yn ei berthynas â'r Efengyl," yn yr hon y gosodir allan mewn modd cryno, eto eglur a chyflawn, ei olygiadau ar y mater. Dywed, "Ymddengys oddiwrth yr Ysgrythyrau fod rhyw berthynas, a hono yn berthynas o bwys mawr a chanlyniadau difrifol, rhwng pob dyn a'r efengyl." Ac er profi ac egluro y berthynas hon, rhydd y rhaniadau canlynol. Ni chawn yma ond rhoddi y penau yn unig: "1. Y mae pob dyn yn ddeiliad ei gwahoddiadau. 2. Mae'r efengyl yn cynwys darpariaeth addas i bob dyn er iachawdwriaeth. 3. Mae perthynas o rwymedigaeth a chyfrifoldeb rhwng pob dyn a'r efengyl. 4. Mae'r efengyl yn dwyn effeithiau gwerthfawr ar holl ddynolryw. 5.