Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'r efengyl yn agor drws gobaith o flaen pob dyn. 6. Yn ol y derbyniad neu y gwrthodiad a wna dynion o'r efengyl y bydd eu sefyllfa dragywyddol yn cael ei benderfynu yn y farn ddiweddaf. Yn ddiweddaf, y mae yr efengyl yn dwyn iechydwriaeth dragywyddol, yn anffaeledig, i bob un sydd yn credu yn enw Iesu Grist." A diwedda yn y geiriau hyn: "Dysgwn ddiolch am efengyl. Gwerthfawrogwn ei breintiau. Rhoddwn hyder mawr yn ei haddewidion. Ymddygwn yn addas i'w chymeriad sanctaidd ; a llawenhawn yn y gobaith gwynfydedig y mae yn ei osod o'n blaen." [Gwel Cenhadwr am 1840, tu dal. 198.]

Pan ymadawodd brawd oddiwrth enwad arall, ac yr ymunodd â'r Annibynwyr, am na chaniateid iddo, meddai ef, bregethu efengyl rydd a rhad i bawb, heb wrthwynebiad, gwnaed tipyn o stwr yn y cyhoeddiadau. Ysgrifenodd Dr. Everett ychydig o nodiadau syml, o dan y peniad, "Nac ymrysonwch ar y ffordd," er ceisio adferu heddwch a theimladau da. Ysgrifenodd erthygl drachefn, yn yr hon y rhoddodd ei resymau dros bregethu yr efengyl i bob dyn yn ddiwahaniaeth, a dyma hwy: "1. Y mae pawb yn ddiwahaniaeth yn sefyll yn yr angen mwyaf am yr iechydwriaeth sydd yn Iesu Grist. 2. Bod heb ran yn Nghrist yw y trueni mwyaf i bob dyn fel eu gilydd yn ddiwahaniaeth. 3. Byw heb Grist dan yr efengyl yw y pechod mwyaf o'r holl bechodau, a hyny ar bob dyn yn diwahaniaeth. 4. Mae Duw wedi ymddiried i'w weision y weinidogaeth o wahodd pawb yn ddiwahaniaeth at ei Fab am iechydwriaeth, a gwae fydd iddynt os byddant anffyddlawn ar yr ymddiried mawr hwn. 5. Mae dal allan weinidogaeth gyfyng, yn lle gwahodd pawb yn