Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiwahaniaeth at Grist, yn tueddu yn fawr i fagu ysbryd Antinomaidd yn ein gwrandawyr, a thrwy hyny eu cadarnhau mewn parhaol anufudd—dod i'r efengyl. 6. Mae dal allan efengyl gyfyng, yn lle gwahodd pawb yn ddiwahaniaeth at y Gwaredwr, wedi bod yn ddyryswch i lawer dan gymelliadau ac argyhoeddiadau. 7. Mae yr athrawiaeth felus o holl—ddigonedd yr Arglwydd Iesu Grist fel Gwaredwr pechaduriaid yn galw arnom i wahodd pawb ato. 8. Y mae Iesu Grist o Osodiad y Tad yn Gyfryngwr addas i bob dyn i ymofyn bywyd ynddo." A'i air diweddol ydoedd, "Parhawn yn ddiflino hyd yr anadl olaf i wahodd pawb, yn mhob lle, at ein Iesu anwyl i ymofyn am fywyd ynddo." [Gwel y Cenhadwr am 1841, tu dal. 144.] Rhoddodd yr ysgrif hon, yr ydym yn meddwl, derfyn effeithiol ar yr ymrafael hwnw; ac nid ydym yn rhyfeddu dim at hyny, gan mor argyhoeddiadol ac effeithiol y triniai y pwnc.

Yr oedd Dr. Everett yn ddiwygiwr nid yn unig gyda golwg ar athrawiaeth yr efengyl, eithr yr oedd hefyd yn gyfaill cywir, ac yn bleidiwr ffyddlon i bob achos a dueddai er lledaenu yr efengyl a gwella y byd. Ymdrechodd lawer o blaid y gymdeithas Feiblaidd a'r cymdeithasau Cenadol Tramor a Chartrefol. Bu yn bleidiwr ffyddlon i achos addysg a'r ysgolion Sabbothol. Cyfansoddodd er ys llawer o flynyddoedd ei "Gatecism Cyntaf," yr hwn a gafodd dderbyniad mwy cyffredinol yn ysgolion Sabbothol yr Annibynwyr nag un arall yn y wlad hon ac yn Nghymru; a pharha yn ei boblogrwydd, yn Nghymru yn enwedig, hyd yn awr. Cyfansoddodd, drachefn, y rhan gyntaf o'i Egwyddorydd Ysgrythyrol," ar rai o brif bynciau